Ymweliadau Cartref
Lle bynnag y bo modd, rydym yn argymell archwilio anifeiliaid anwes yn y filfeddygfa. Mae ein cyfleusterau, ein cyfarpar a’n tîm cymorth yn ein galluogi i ddarparu safon uwch o ymchwiliadau diagnostig, triniaeth a gofal i gleifion nag sy’n bosibl fel arfer yn y cartref.
Rydym yn cydnabod, serch hynny, y gall ymweliad cartref fod y dewis mwyaf priodol mewn rhai amgylchiadau. Gall hyn gynnwys gofal diwedd oes pan fyddai’n well gan y perchennog aros yng nghysur y cartref.
Byddwn bob amser yn ceisio cynnig ymweliadau cartref pan allwn. Cofiwch fod hyn yn dibynnu ar argaeledd ein tîm milfeddygol ac y dylid trefnu’r ymweliad ymlaen llaw lle bynnag y bo modd.
Cofiwch hefyd:
- Ni allwn warantu y bydd ymweliad cartref ar gael ar fyr rybudd. Mewn argyfwng, fel arfer mae er budd eich anifail anwes i chi ddod ag ef i’r filfeddygfa, lle mae ein cyfleusterau a’n tîm clinigol wrth law ar unwaith.
- Mae cyfyngiad ar yr archwiliadau, y triniaethau a’r gweithdrefnau y gellir eu cynnal yn ystod ymweliad cartref. Gallwn felly argymell dod â’ch anifail anwes i’r filfeddygfa i gael asesiad pellach a thriniaeth.
- Codir ffi am ymweliad cartref yn ogystal â chost unrhyw ymgynghoriad, triniaeth neu weithdrefn a ddarperir. Bydd y ffi’n dibynnu ar y pellter o’r filfeddygfa.