Crëwyd Seren Vets gan grŵp o filfeddygon angerddol, sydd oll wedi gweithio’n helaeth yn yr ardal leol ac sy’n rhannu gwerthoedd tebyg a nod cyffredin: cynnig gofal milfeddygol annibynnol o ansawdd uchel i’r gymuned leol, tra hefyd yn gofalu am eu staff ac adeiladu tîm hapus ac ymroddedig.
Sefydlwyd Seren Vets am y tro cyntaf yn 2020, ar ôl blynyddoedd o gynllunio (a ffordd hir a throellog!), daeth y cyfle i agor practis Caerfyrddin yn 2022 fel rhan o Ganolfan Lles Burns. Hwn bellach yw'r unig bractis anifeiliaid bach annibynnol yng Nghaerfyrddin, gyda phob practis lleol arall yn perthyn i gwmnïau mawr.
Mae gan Seren Vets hefyd berthynas waith agos gyda milfeddygon Gibson & Jones, practis annibynnol arall gyda changhennau yn Llanelli ac Abertawe. Mae milfeddygon Gibson & Jones wedi’i sefydlu ers dros 40 mlynedd, ac mae un o gyfarwyddwyr Seren Vets wedi cymryd perchnogaeth o Gibson & Jones yn ddiweddar.