Skip to main content

Ein Prisiau

Dyma ein prisiau cyfredol (mae pob pris yn cynnwys TAW):

Ymgynghoriadau a gofal ataliol

Ymgynghoriad safonol (15 munud fel arfer)
£56
Ymgynghoriad dilynol
£40
Ymgynghoriad i adolygu meddyginiaeth hirdymor
£36
Ymgynghoriad ar gyfer archwiliad presgripsiwn am driniaeth chwain a llyngyr yn unig
£20
Ymgynghoriad brys, ail farn neu ymgynghoriad estynedig
£65-£70
Ymgynghoriad i anifail egsotig
£65
Ymgynghoriad â nyrs (15 munud fel arfer)
£28
Ymgynghoriad i dorri crafangau
£28 (neu £10 os caiff ei ychwanegu at ymgynghoriad neu frechiad arall)
Ymgynghoriad i wagio’r chwarennau rhefrol
£28 (neu £10 os caiff ei ychwanegu at ymgynghoriad neu frechiad arall)
Gosod microsglodyn
£25
Cwrs brechu cychwynnol i gi neu gath (gan gynnwys ymgynghoriad)
£90
Brechiad atgyfnerthu i gi neu gath (gan gynnwys ymgynghoriad)
£70
Brechiad rhag peswch cenel i gi (gan gynnwys ymgynghoriad)
£60 (neu £30 gyda’r brechiad atgyfnerthu)
Brechiadau i gwningen: Myxo RHD
£70, brechlyn RHD newydd £40
Tystysgrif Iechyd Anifeiliaid
£200 (+£50 am bob anifail anwes ychwanegol)

Presgripsiynau, dosbarthu a gweinyddu

Ffi presgripsiwn
£20 (+ £5 am bob cynnyrch ychwanegol)
Ffi safonol am ddosbarthu meddyginiaeth
£5
Ffi am ddosbarthu cyffuriau rheoledig
£7.50
Ffi am roi meddyginiaeth drwy bigiad
£10
Ffi gweinyddu yswiriant
£15 (£25 i ymwelwyr sydd heb gofrestru’n gleientiaid)

Llawdriniaethau a thriniaethau

Mae’r prisiau’n cynnwys anaesthesia cyffredinol, lleddfu poen ar ôl y llawdriniaeth ac archwiliadau dilynol ar ôl y llawdriniaeth.

Triniaeth ddeintyddol i gi
£299 - £849 (yn dibynnu ar faint o ddannedd sydd angen eu tynnu)
Triniaeth ddeintyddol i gath
£249 - £799 (yn dibynnu ar faint o ddannedd sydd angen eu tynnu)
Triniaeth ddeintyddol i gwningen neu fochyn cwta
£210 - £360
Ysbaddu ci gwryw
£230 - £320 (yn dibynnu ar ei bwysau)
Ysbaddu cath wryw
£85
Ysbaddu cwningen neu fochyn cwta (gwryw)
£115

Os oes ceilliau heb ddisgyn, codir £100-£200 yn ychwanegol am bob caill sydd heb ddisgyn

Ysbaddu ci benyw
£310 - £440 (yn dibynnu ar ei bwysau)
Ysbaddu cath fenyw
£130
Ysbaddu cwningen neu fochyn cwta (benyw)
£195

Therapi laser:

Ar ôl llawdriniaeth
£10
Sesiwn unigol (15 munud fel arfer)
£25
Cwrs o 6 sesiwn (6 am bris 5)
£125

Profion diagnostig a labordy

Mae’r holl brisiau’n cynnwys dehongli’r canlyniadau yn y practis.

Pelydr-X cyntaf
£150
Pob pelydr-X ychwanegol
£75

A CHOST anaesthesia cyffredinol neu dawelyddu

Costau enghreifftiol am 3 delwedd pelydr-X, gan gynnwys tawelyddu neu anaesthesia cyffredinol:

Ci
£420 - £585
Cath
£410 - £500
Cwningen / anifail egsotig
£390 - £470
Sgan uwchsain o’r abdomen
£240
Sgan uwchsain o’r galon
£200
Sgan uwchsain cynhwysfawr
£320
Sgan uwchsain ar gyfer asesiad cyflym o drawma
£120
Sgan uwchsain o un organ
£95
Prawf gwaed cyn anaesthesia
£72.72 (+ £30 am brawf llyngyr yr ysgyfaint)
Prawf wrin sylfaenol (yn y practis)
£21.60
Prawf wrin cynhwysfawr (yn y practis, gan gynnwys SediVue)
£43.20
Sytoleg a microsgopeg yn y practis
£20 (£10 am sampl arall)

Gofal diwedd oes

Rhoi ci i gysgu
£110 - £140 (yn dibynnu ar ei bwysau)
Rhoi cath i gysgu
£95
Rhoi mamal bach / ymlusgiad / aderyn i gysgu
£56
Amlosgi ci ar y cyd
£49 -£79
Amlosgi cath ar y cyd
£49
Amlosgi mamal bach / ymlusgiad / aderyn ar y cyd
£24
Amlosgi ci yn unigol
£200 -£280*
Amlosgi cath yn unigol
£185*
Amlosgi mamal bach / ymlusgiad / aderyn yn unigol
£145*

*Gall wrnau, casgedi ac eitemau coffa ansafonol neu wedi’u gwneud i archeb gostio mwy.

I gael rhagor o wybodaeth am ein prisiau, neu os oes gennych gwestiynau am gost gweithdrefnau anarferol, cysylltwch â’n tîm.