Skip to main content

Ymgyngoriadau

I drefnu apwyntiad, ffoniwch y filfeddygfa ar 01267 614400. Mae angen apwyntiad ar gyfer pob ymgynghoriad. Mae ein ffioedd ymgynghori presennol* ar gael ar ein rhestr brisiau.

Mae apwyntiad ymgynghori safonol fel arfer yn para 15 munud. Gall rhai apwyntiadau gymryd mwy o amser, er enghraifft achosion meddygol cymhleth, ymgyngoriadau am ail farn, apwyntiadau ewthanasia neu drafodaethau am fwy nag un anifail anwes. Os ydych yn credu y bydd angen mwy o amser ar gyfer apwyntiad eich anifail anwes, rhowch wybod i ni wrth archebu.

Gofynnwn i chi gyrraedd ychydig funudau cyn amser eich apwyntiad. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Rydym yn gwneud pob ymdrech i gadw at amseroedd ein hymgyngoriadau, ond mae’n anodd rhagweld beth fydd yn digwydd mewn milfeddygfa. O bryd i’w gilydd, gall argyfyngau ac achosion sy’n fwy cymhleth na’r disgwyl achosi oedi. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch dealltwriaeth pan fydd hyn yn digwydd.

Ym mhob ymgynghoriad, bydd un o’n milfeddygon neu nyrsys milfeddygol cofrestredig (pan fo hynny’n briodol) yn asesu eich anifail anwes, yn trafod unrhyw bryderon sydd gennych ac yn egluro’r opsiynau a argymhellir ar gyfer ymchwilio neu drin. Rydym yn eich annog i ofyn cwestiynau ar unrhyw adeg yn ystod yr ymgynghoriad.

Lle bynnag y bo modd, rydym yn ceisio sicrhau bod eich anifail anwes yn gweld yr un milfeddyg drwy gydol salwch neu gwrs o driniaeth. Mae hyn yn helpu i sicrhau parhad gofal ac yn rhoi cyfle i chi a’ch anifail anwes feithrin perthynas o ymddiriedaeth â’r clinigydd sy’n gofalu am yr achos. Os hoffech gael apwyntiad gyda milfeddyg penodol, rhowch wybod i’n tîm derbynfa wrth archebu.

*Fel arfer, codir ffi ymgynghori fesul anifail, ond gall y milfeddyg addasu’r ffi yn ôl disgresiwn, gan ddibynnu ar faint o amser sydd ei angen. Gall fod tâl ychwanegol am ymgyngoriadau cymhleth neu rai sy’n cymryd mwy o amser, ymgyngoriadau brys a drefnir ar fyr rybudd ac ymgyngoriadau ar benwythnosau neu gyda’r nos.

Ystafell ymgynghori yn Seren Vets