Telerau ac Amodau
Cynnwys
1. Croeso
Diolch am ymddiried gofal eich anifail anwes neu eich anifeiliaid anwes i Seren Vets.
Mae tîm Seren Vets yn ymrwymedig i ddarparu gofal milfeddygol o safon uchel mewn amgylchedd tosturiol, cyfeillgar a phroffesiynol. Credwn fod y gofal milfeddygol gorau yn seiliedig ar ymddiriedaeth, cyfathrebu agored a pharch rhwng ein tîm a’n cleientiaid. Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth â’n cleientiaid drwy’ch cynnwys mewn penderfyniadau am iechyd a lles eich anifail anwes a rhoi cyngor clir i’ch helpu i wneud dewisiadau gwybodus drwy gydol ei oes.
Mae’r ddogfen hon yn egluro ein Telerau ac Amodau. Darllenwch hwy’n ofalus. Efallai na fydd rhai adrannau’n berthnasol i bob cleient neu bob ymweliad. Os hoffech gael eglurhad neu ragor o fanylion am unrhyw ran, cysylltwch â ni.
Drwy gofrestru gyda Seren Vets, trefnu apwyntiad, prynu cynhyrchion neu feddyginiaethau, neu dderbyn gwasanaethau milfeddygol gennym, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a derbyn y Telerau ac Amodau hyn, sy’n sail i’r cytundeb rhyngoch chi a Seren Vets.
Ni fydd unrhyw ychwanegiad at y Telerau ac Amodau hyn na newid iddynt yn rhwymo’r Practis oni bai y cytunir arno’n benodol yn ysgrifenedig a bod un o’r Cyfarwyddwyr yn ei lofnodi. Nid oes gan unrhyw asiant na pherson arall yr awdurdod i newid y Telerau ac Amodau hyn. O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru’r Telerau ac Amodau hyn i adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth, canllawiau proffesiynol neu’r gwasanaethau a ddarparwn. Bydd y fersiwn ddiweddaraf ar gael bob amser ar ein gwefan, a gellir darparu copi printiedig ar gais hefyd. Pan fyddwn yn gwneud newidiadau sylweddol sy’n effeithio ar y gwasanaethau a ddarparwn neu ar eich cyfrifoldebau fel cleient, byddwn yn cymryd camau rhesymol i dynnu eich sylw atynt. Bydd parhau i fod wedi’ch cofrestru gyda Seren Vets a/neu barhau i ddefnyddio ein gwasanaethau ar ôl unrhyw newidiadau i’r Telerau ac Amodau hyn yn gyfystyr â derbyn y Telerau ac Amodau wedi’u diweddaru.
Edrychwn ymlaen at feithrin perthynas hirdymor yn seiliedig ar ymddiriedaeth â chi a’ch anifail anwes neu’ch anifeiliaid anwes.
2. Gwybodaeth am y practis
Mae Seren Vets yn bractis milfeddygol i anifeiliaid bach sy’n falch o fod yn annibynnol, ac agorodd yng Nghaerfyrddin yn 2022.
Mae gennym dîm profiadol a sefydlog o filfeddygon, nyrsys a staff cymorth, ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd parhad gofal i’n cleifion.
Ni yw’r unig bractis milfeddygol annibynnol yng Nghaerfyrddin ar hyn o bryd. Mae bod yn annibynnol yn golygu mai perchnogion preifat lleol sy’n berchen ar y practis, yn hytrach na grŵp corfforaethol mawr. Mae hynny’n rhoi’r rhyddid a’r ymreolaeth lawn inni wneud penderfyniadau ar sail yr hyn a gredwn sydd orau i’n cleifion a’n cleientiaid, a phennu ein prisiau teg ein hunain, heb orfod dilyn polisïau, canllawiau na strwythurau prisio corfforaethol.
Dyma ein horiau agor arferol.
Dydd Llun i ddydd Gwener: 8:30 yb – 6:00 yh
Dydd Sadwrn: 8:30 yb – 12:00 (hanner dydd)
Gall yr oriau agor amrywio o bryd i’w gilydd ar wyliau banc neu oherwydd amgylchiadau eithriadol. Bydd unrhyw newidiadau dros dro yn cael eu dangos ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Yn ystod ein horiau agor arferol, rydym yn darparu’r gwasanaethau canlynol.
- Ymgyngoriadau milfeddygol drwy apwyntiad
- Gofal iechyd ataliol, gan gynnwys brechiadau, atal parasitiaid ac archwiliadau iechyd
- Ymchwiliadau a thriniaeth feddygol
- Triniaethau arferol (megis ysbaddu a thriniaethau deintyddol), a thriniaethau llawfeddygol mwy datblygedig
- Delweddu diagnostig a phrofion labordy
- Ymgyngoriadau â nyrsys a chlinigau nyrsio
- Cyflenwi meddyginiaethau milfeddygol a chynhyrchion eraill, gan gynnwys cyflenwadau rheolaidd o feddyginiaethau a gwasanaethau presgripsiwn
- Gwasanaethau atgyfeirio a chlinigau sy’n ymweld â’r practis
- Gwasanaethau teithio i anifeiliaid anwes
- Gofal diwedd oes
Y tu allan i’r oriau agor arferol, darperir gwasanaeth y tu allan i oriau i ofalu am anifeiliaid sydd angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng, neu i ddarparu cymorth parhaus i gleifion sydd yn yr ysbyty. Gweler Adran 6 am ragor o wybodaeth.
Rydym wedi ymrwymo i gynnal safonau proffesiynol uchel ac rydym yn gweithio yn unol â Chod Ymddygiad Proffesiynol y Royal College of Veterinary Surgeons (RCVS) a holl ddeddfwriaeth filfeddygol berthnasol y DU. Rydym yn buddsoddi’n barhaus yn ein cyfleusterau, ein hoffer a datblygiad proffesiynol parhaus ein tîm er mwyn sicrhau bod ein cleifion yn cael gofal milfeddygol cyfredol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Os credwn ar unrhyw adeg y byddai eich anifail anwes yn elwa ar gyfleusterau neu arbenigedd y tu hwnt i’r hyn sydd ar gael yn ein practis, byddwn yn trafod yr opsiwn o’i atgyfeirio at arbenigwr neu ganolfan atgyfeirio briodol. Gwneir unrhyw argymhelliad o’r fath bob amser er budd gorau eich anifail anwes ac mewn ymgynghoriad â chi.
3. Cofrestru gyda’r practis
Rhaid i bob anifail anwes sy’n cael triniaeth gan Seren Vets fod wedi’i gofrestru gyda’r Practis. Gallwch gofrestru gyda ni wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy ein gwefan. Wrth gofrestru, byddwn yn gofyn ichi ddarparu manylion cyswllt cywir ynghyd â gwybodaeth am eich anifail anwes, gan gynnwys ei hanes milfeddygol blaenorol pan fo hwnnw ar gael. Fel cleient newydd, mae’n bosibl y bydd angen ichi hefyd gyflwyno prawf adnabod a bil cyfleustodau o’r 3 mis diwethaf i gadarnhau eich cyfeiriad.
I gofrestru gyda’r Practis, rhaid ichi fyw yn ein dalgylch. Mae hyn yn golygu bod rhaid ichi fod â chod post ‘SA’ a byw o fewn 30 milltir i’r Practis (dim mwy nag awr o daith mewn car). Mae hyn er mwyn ichi allu cyrraedd y practis a’n darparwr gwasanaeth y tu allan i oriau sydd gerllaw yn brydlon gyda’ch anifail anwes mewn argyfwng neu pan fo angen rhoi sylw cyflym i’w gyflwr, er mwyn iddo gael y gofal gorau posibl. Gwneir eithriadau i’r rheol hon ar gyfer cleientiaid ein clinigau atgyfeirio sy’n ymweld â’r practis (HeartVets, Pain Clinic, atgyfeiriadau ar gyfer anifeiliaid egsotig) ac ymwelwyr sy’n aros yn yr ardal dros dro (e.e. ar wyliau). Yn yr amgylchiadau hyn, byddem yn disgwyl eich bod eisoes wedi’ch cofrestru gyda phractis barn gyntaf yn eich ardal leol ac y byddech yn dod i’n practis ni dros dro neu ar sail atgyfeiriad yn unig.
Gofynnwn i elusennau, canolfannau achub, busnesau ac unrhyw ddarpar gleientiaid eraill sydd â nifer o anifeiliaid neu anghenion penodol gysylltu â ni i roi rhagor o wybodaeth inni fel y gallwn asesu eich anghenion a’n gallu i’w diwallu cyn cadarnhau’r cofrestriad.
Perchnogaeth a chyfrifoldeb
Ystyrir mai’r sawl sy’n cofrestru anifail anwes gyda Seren Vets yw’r perchennog cofrestredig, oni roddir gwybod inni fel arall. Y perchennog cofrestredig sy’n gyfrifol am sicrhau bod y wybodaeth sydd gan y Practis yn gywir ac yn gyfredol, ac sy’n parhau’n gyfrifol am yr holl ffioedd sy’n codi mewn cysylltiad â thriniaeth yr anifail anwes, oni chytunwyd ar drefniadau eraill yn ysgrifenedig.
Os bydd perchnogaeth eich anifail anwes yn newid, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod inni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am dystiolaeth briodol cyn trosglwyddo perchnogaeth cofnodion claf.
Os bydd rhywun arall yn dod â’ch anifail anwes i apwyntiad ar eich rhan, byddwn yn cymryd eich bod wedi rhoi’r awdurdod iddo gydsynio i archwiliad a thriniaeth. Fodd bynnag, oni chytunir fel arall ymlaen llaw, y perchennog cofrestredig sy’n parhau’n gyfrifol am dalu unrhyw ffioedd.
Mae’n bwysig eich bod yn egluro unrhyw drefniadau ar gyfer anifeiliaid sydd yng ngofal elusen neu ganolfan achub wrthym o’r cychwyn, yn enwedig o ran cydsyniad a chyfrifoldeb ariannol. Yn achos anifeiliaid maeth, os elusen neu ganolfan achub sy’n gyfrifol am dalu a gwneud penderfyniadau ar gyfer yr anifail, dylai sefydlu ei chyfrif ei hun yn uniongyrchol gyda ni. Fel arall, gallwn gymryd mai’r sawl sydd wedi cofrestru’r anifail ar ei gyfrif sy’n gyfrifol am yr anifail hwnnw.
Cadw’ch manylion yn gyfredol
Rhaid inni gadw cofnodion cywir am ein cleientiaid a’n cleifion. I wneud hynny, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn ichi o bryd i’w gilydd gadarnhau eich manylion cofrestru a chyswllt. Mae’n hanfodol ein bod yn gallu cysylltu â chi’n brydlon, yn enwedig os yw eich anifail anwes yn cael triniaeth neu os oes angen sylw meddygol brys arno.
Rhowch wybod inni cyn gynted â phosibl os bydd unrhyw un o’r manylion canlynol yn newid.
- Eich cyfeiriad post
- Eich rhif neu rifau ffôn
- Eich cyfeiriad e-bost
- Perchnogaeth neu gyfeiriad parhaol eich anifail anwes.
Mae angen diweddaru eich dewisiadau cyfathrebu bob blwyddyn er mwyn ichi barhau i gael negeseuon i’ch atgoffa am apwyntiadau a thriniaethau.
Cleifion newydd
Lle bo modd, gofynnwn i gleientiaid newydd drefnu apwyntiad cofrestru arferol gyda ni cyn bod angen unrhyw driniaeth nad yw’n frys. Mae hyn yn galluogi un o’n milfeddygon i gynnal archwiliad clinigol llawn, adolygu hanes meddygol eich anifail anwes, trafod gofal iechyd ataliol ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Os yw practis milfeddygol arall wedi trin eich anifail anwes o’r blaen, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am eich caniatâd i gael ei gofnodion clinigol fel bod gennym ddealltwriaeth lawn o’i hanes meddygol.
Cŵn sydd wedi’u mewnforio
Rhowch wybod inni wrth gofrestru os yw eich ci wedi’i fewnforio, wedi byw dramor neu wedi byw gyda chi sydd wedi’i fewnforio. Gall y risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â chŵn sydd wedi’u mewnforio fod yn wahanol i risgiau cŵn a anwyd ac a fagwyd yn y DU. Os yw eich ci wedi’i fewnforio o wlad arall neu wedi cael cartref newydd drwy sefydliad achub tramor, mae’n bosibl y bydd angen inni gymryd rhagofalon ychwanegol pan fydd yn ymweld â’r practis ac y byddwn yn argymell neu’n mynnu profion sgrinio iechyd ychwanegol pan fo hynny’n glinigol briodol. Gall hyn gynnwys profion am glefydau fel Brucella canis, haint milheintiol hysbysadwy a all beri risg i anifeiliaid a phobl fel ei gilydd. Byddwn yn trafod unrhyw brofion a argymhellir â chi cyn eu cynnal ac yn egluro’r rhesymau dros ein cyngor. Sylwch fod rhai practisau atgyfeirio arbenigol yn gofyn am brawf am Brucella cyn derbyn atgyfeiriad ar gyfer ci sydd wedi teithio dramor neu wedi’i fewnforio.
Derbyn cofrestriad
Mae Seren Vets yn cadw’r hawl i wrthod cofrestriad cleient neu ddod ag ef i ben. Gellir gwrthod cofrestriad oherwydd cyfyngiadau ar gapasiti neu staffio, y dalgylch, hanes blaenorol y cleient, neu am ein bod o’r farn na allwn ddarparu gofal yn ddiogel neu’n briodol. Gall y rhesymau dros ddod â chofrestriad i ben gynnwys chwalfa ddifrifol yn y berthynas rhwng y milfeddyg a’r cleient, peidio â thalu ffioedd, methu â dod i apwyntiadau dro ar ôl tro, neu ymddwyn yn sarhaus, yn fygythiol neu mewn modd annerbyniol arall tuag at aelodau ein tîm. Pan fo’n briodol ac yn unol â’n rhwymedigaethau proffesiynol, byddwn yn darparu’r driniaeth frys sy’n angenrheidiol i leddfu poen neu ddioddefaint cyn eich cynghori i gofrestru gyda phractis milfeddygol arall.
4. Gwybodaeth am gleientiaid a phreifatrwydd
Yn Seren Vets, rydym yn cydnabod pwysigrwydd diogelu eich gwybodaeth bersonol a pharchu eich preifatrwydd. Rydym wedi ymrwymo i drin eich data yn gyfrifol ac yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Mae ein Polisi Preifatrwydd llawn ar gael ar ein gwefan, a gellir darparu copi printiedig ar gais hefyd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n Tîm Rheoli yn clientcare@serenvets.co.uk
Yr wybodaeth a gasglwn
Er mwyn darparu gofal milfeddygol i’ch anifail anwes, byddwn yn casglu ac yn cadw gwybodaeth, gan gynnwys y canlynol.
- Eich enw, eich cyfeiriad a’ch manylion cyswllt
- Y dull cyfathrebu sydd orau gennych
- Manylion am eich anifail anwes, gan gynnwys ei hanes meddygol, ei driniaethau a’i frechiadau
- Gwybodaeth am yswiriant, pan fo’n berthnasol
- Gwybodaeth am daliadau a bilio, pan fo angen
Dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i ddarparu gofal milfeddygol a gweinyddu ein gwasanaethau y byddwn yn ei chasglu.
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Defnyddir eich gwybodaeth at y dibenion canlynol.
- Darparu gofal milfeddygol i’ch anifail anwes
- Trefnu apwyntiadau a chyfathrebu â chi am ofal eich anifail anwes
- Prosesu taliadau a chadw cofnodion ariannol cywir
- Cysylltu â chi ynghylch canlyniadau labordy, meddyginiaethau, derbyn i’r ysbyty neu argyfyngau
- Anfon negeseuon i’ch atgoffa am frechiadau, atal parasitiaid, meddyginiaethau rheolaidd ac archwiliadau iechyd arferol os nad ydych wedi dewis peidio â chael y negeseuon hynny
- Cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a phroffesiynol
Ni fyddwn byth yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon.
Rhannu gwybodaeth
Weithiau mae’n bosibl y bydd angen inni rannu gwybodaeth amdanoch chi neu’ch anifail anwes. Gallwn rannu’r wybodaeth â’r partïon canlynol.
- Practisau atgyfeirio neu ganolfannau milfeddygol arbenigol sy’n ymwneud â gofal eich anifail anwes
- Darparwyr gofal brys neu wasanaethau y tu allan i oriau
- Labordai diagnostig
- Cwmnïau yswiriant wrth brosesu hawliadau gyda’ch caniatâd
- Awdurdodau rheoleiddio neu asiantaethau’r llywodraeth pan fo’r gyfraith yn mynnu hynny
- Asiantaethau adennill dyledion pan na fydd cyfrifon wedi’u talu a phan fydd ymdrechion rhesymol i adennill taliad wedi methu
Dim ond pan fo angen er mwyn darparu gofal milfeddygol, gweinyddu ein gwasanaethau neu gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol neu broffesiynol y rhennir gwybodaeth.
Cofnodion clinigol
Mae cofnodion clinigol eich anifail anwes, gan gynnwys nodiadau clinigol, canlyniadau labordy, radiograffau, delweddau uwchsain a chofnodion diagnostig eraill, yn parhau’n eiddo i Seren Vets. Codir unrhyw ffioedd am ddehongli cofnodion o’r fath yn hytrach nag am y dogfennau eu hunain. Pan fo’n briodol, byddwn yn darparu copïau o gofnodion clinigol perthnasol eich anifail anwes i chi neu i bractis milfeddygol arall ar eich cais. Mae’n bosibl y codir tâl gweinyddol rhesymol os bydd angen amser sylweddol i baratoi neu drosglwyddo cofnodion.
Cyfathrebu
Oni bai eich bod yn gofyn inni beidio, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn, drwy neges destun, drwy e-bost neu drwy’r post ynghylch y materion canlynol.
- Cadarnhau apwyntiadau
- Canlyniadau profion
- Negeseuon atgoffa am feddyginiaethau
- Negeseuon atgoffa am ofal iechyd ataliol
- Gwybodaeth am driniaeth barhaus eich anifail anwes
- Diweddariadau pwysig am ein gwasanaethau
Gallwch ddewis peidio â chael negeseuon nad ydynt yn hanfodol ar unrhyw adeg. Sylwch y byddwn yn dal i gysylltu â chi pan fo angen mewn cysylltiad â thriniaeth eich anifail anwes, eich cyfrif neu faterion pwysig eraill sy’n ymwneud â’ch cofrestriad gyda’r Practis. Sylwch fod angen diweddaru eich dewisiadau cyfathrebu ar ein system bob blwyddyn os dymunwch barhau i gael negeseuon i’ch atgoffa am apwyntiadau a thriniaethau.
Cyfrinachedd
Mae holl aelodau tîm Seren Vets wedi ymrwymo i gynnal cyfrinachedd cleientiaid.
Bydd gwybodaeth a ddarperir gennych, neu a geir mewn cysylltiad â gofal a thriniaeth eich anifail, yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Fel arfer, ni chaiff ei datgelu i drydydd partïon heb eich cydsyniad. Fodd bynnag, nid yw cyfrinachedd yn absoliwt a gallwn ddatgelu gwybodaeth berthnasol os ydych wedi rhoi caniatâd, os yw datgelu’n angenrheidiol neu’n gyfiawnadwy i ddiogelu lles anifeiliaid neu fudd ehangach y cyhoedd, o dan ein rhwymedigaethau proffesiynol, neu pan fo’r gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu datgelu. Bydd unrhyw ddatgeliad yn gyfyngedig i’r wybodaeth y mae’n rhesymol ei hystyried yn angenrheidiol o dan yr amgylchiadau.
Rydym yn cymryd camau priodol i ddiogelu’r wybodaeth sydd gennym ac i sicrhau ei bod yn cael ei storio’n ddiogel ac mai dim ond aelodau awdurdodedig o’n tîm sy’n cael mynediad ati. Bydd data personol yn cael ei drin yn unol â deddfwriaeth berthnasol y DU ar ddiogelu data ac â’n Polisi Preifatrwydd.
Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i ddatblygiad y proffesiwn milfeddygol, mae’n bosibl y bydd y practis, o bryd i’w gilydd, yn rhannu data sydd wedi’i wneud yn ddienw â grwpiau ymchwil a sefydliadau.
5. Ymgyngoriadau
Cynhelir pob ymgynghoriad drwy apwyntiad yn unig. I drefnu apwyntiad, ffoniwch y practis.
Mae apwyntiadau ymgynghori safonol fel arfer yn para 15 munud. Efallai y bydd angen mwy o amser ar gyfer rhai apwyntiadau, megis achosion meddygol cymhleth, ymgyngoriadau am ail farn, apwyntiadau ewthanasia neu drafodaethau am fwy nag un anifail anwes. Os ydych yn credu y bydd apwyntiad eich anifail anwes yn debygol o gymryd mwy o amser nag ymgynghoriad safonol, rhowch wybod inni wrth drefnu’r apwyntiad er mwyn inni neilltuo cyfnod addas o amser. Codir tâl am bob ymgynghoriad. Holwch am y ffioedd presennol neu edrychwch ar ein rhestr brisiau ar y wefan. Fel arfer, codir tâl ymgynghori fesul anifail, ond gall y milfeddyg amrywio’r tâl yn ôl ei ddisgresiwn, gan ystyried faint o amser a gymerir. Mae’n bosibl y codir tâl ychwanegol am ymgyngoriadau cymhleth, rhai sydd angen mwy o amser, rhai a drefnir ar fyr rybudd mewn argyfwng, neu rai a gynhelir ar benwythnosau neu gyda’r nos.
Cyrraedd ar gyfer eich apwyntiad
Gofynnwn ichi gyrraedd ychydig funudau cyn amser eich apwyntiad.
Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i gynnal ymgyngoriadau ar amser, mae gwaith milfeddygol yn anrhagweladwy. Gall argyfyngau ac achosion sy’n annisgwyl o gymhleth achosi oedi o bryd i’w gilydd. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch dealltwriaeth os bydd hyn yn digwydd.
Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr, mae’n bosibl y bydd angen inni fyrhau’r ymgynghoriad, aildrefnu eich apwyntiad neu ofyn ichi aros tan yr apwyntiad nesaf sydd ar gael. Mae hyn yn ein helpu i darfu cyn lleied â phosibl ar gleientiaid eraill ac yn sicrhau bod pob claf yn cael y sylw sydd ei angen arno.
Canslo apwyntiadau
Os na allwch ddod i’ch apwyntiad, rhowch wybod inni cyn gynted â phosibl. Mae rhoi gwybod ymlaen llaw yn ein galluogi i gynnig yr apwyntiad i glaf arall a all fod angen sylw milfeddygol. Os byddwch yn methu â dod i apwyntiadau dro ar ôl tro heb roi gwybod, mae’n bosibl y bydd Seren Vets yn gofyn am flaendal cyn y gallwch drefnu apwyntiadau yn y dyfodol neu, mewn rhai amgylchiadau, yn adolygu eich cofrestriad gyda’r Practis.
Parhad gofal
Lle bynnag y bo modd, ein nod yw i’r un milfeddyg weld eich anifail anwes drwy gydol salwch parhaus neu gwrs triniaeth. Mae hyn yn helpu i sicrhau parhad gofal ac yn caniatáu i chi a’ch anifail anwes feithrin perthynas o ymddiriedaeth â’r clinigydd sy’n rheoli’r achos. Os hoffech gael eich apwyntiad gyda milfeddyg penodol, rhowch wybod i dîm y dderbynfa wrth drefnu’r apwyntiad.
Fodd bynnag, cofiwch ei bod yn bosibl na fydd modd gwneud hyn bob tro oherwydd argaeledd staff, gwyliau, argyfyngau neu ffactorau eraill. Pan fydd aelod arall o’n tîm milfeddygol yn ymwneud â gofal eich anifail anwes, bydd ganddo fynediad llawn at ei gofnodion clinigol er mwyn sicrhau parhad y driniaeth.
Archwilio eich anifail anwes
Yn ystod pob ymgynghoriad, bydd un o’n milfeddygon neu un o’n nyrsys milfeddygol cofrestredig (pan fo’n briodol) yn asesu eich anifail anwes, yn trafod unrhyw bryderon sydd gennych ac yn egluro’r opsiynau a argymhellir ar gyfer ymchwiliadau neu driniaeth. Rydym yn eich annog i ofyn cwestiynau ar unrhyw adeg yn ystod yr ymgynghoriad. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn egluro manteision, risgiau, canlyniadau disgwyliedig a chostau amcangyfrifedig unrhyw weithdrefnau neu driniaethau a argymhellir fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus am ofal eich anifail anwes.
Cydsyniad i driniaeth
Cyn cynnal unrhyw ymchwiliad sylweddol, gweithdrefn, llawdriniaeth neu gwrs triniaeth, byddwn yn gofyn am eich cydsyniad gwybodus. Mewn argyfwng, os oes angen triniaeth frys i leddfu poen, atal dioddefaint diangen neu ddiogelu bywyd, ac nad yw’n bosibl cysylltu â chi er gwaethaf ymdrechion rhesymol, gall ein milfeddygon ddarparu triniaeth sydd, yn eu barn hwy, er budd gorau eich anifail anwes yn unol â’u cyfrifoldebau proffesiynol a chyfreithiol.
Canlyniadau gofal milfeddygol
Nid yw meddygaeth filfeddygol yn wyddor fanwl gywir ac, er gwaethaf y safonau gofal uchaf, ni ellir gwarantu canlyniadau. Bydd ein tîm bob amser yn gweithredu er budd gorau eich anifail anwes, gan ddefnyddio gwybodaeth filfeddygol gyfredol, barn glinigol a meddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth i argymell y camau mwyaf priodol. Ein nod bob amser fydd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi drwy gydol triniaeth eich anifail anwes a thrafod unrhyw newidiadau i’r cynllun triniaeth wrth iddynt godi.
6. Argyfyngau a gofal y tu allan i oriau
Yn Seren Vets, rydym yn deall y gall argyfyngau ddigwydd yn annisgwyl a’u bod yn aml yn peri pryder i chi a’ch anifail anwes. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod eich anifail anwes yn cael gofal milfeddygol prydlon a phriodol pryd bynnag y bo angen.
Argyfyngau yn ystod yr oriau agor arferol
Os credwch fod angen sylw milfeddygol brys ar eich anifail anwes yn ystod ein horiau agor arferol, ffoniwch y practis cyn teithio lle bynnag y bo modd. Mae hyn yn galluogi ein tîm i baratoi ar gyfer eich dyfodiad, eich cynghori’n briodol a sicrhau bod y staff a’r offer angenrheidiol ar gael. Sylwch nad ydym yn monitro ein negeseuon e-bost na’n negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yn barhaus. Felly, os ydych yn credu y gall fod angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng ar eich anifail anwes, ffoniwch y practis yn uniongyrchol ar 01267 614400 yn ddi-oed.
Rhoddir blaenoriaeth i achosion brys bob amser yn ôl yr angen clinigol. Mae hyn yn golygu y gall cleientiaid sy’n dod i apwyntiadau arferol brofi oedi o bryd i’w gilydd tra bo cleifion brys yn cael triniaeth ar unwaith. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn yr amgylchiadau hyn.
Gofal brys y tu allan i oriau
Y tu allan i’n horiau agor arferol, darperir gwasanaeth penodedig y tu allan i oriau i ofalu am anifeiliaid sydd angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng, neu i roi cymorth parhaus i gleifion sydd yn yr ysbyty. Dyma’r darparwr ar hyn o bryd.
MiNightVet,
yn gweithredu o safle Carmarthen Veterinary Hospital,
Llysonnen Road,
Carmarthen
SA31 3SA.
Ffôn: 01267 220404
Gallwch eu ffonio’n uniongyrchol os oes argyfwng pan fyddwn ar gau. Os ffoniwch ein practis y tu allan i’n horiau gwaith arferol, cewch eich trosglwyddo’n awtomatig i’r rhif hwn.
Sylwch fod MiNightVet yn gwmni cwbl ar wahân i Seren Vets a bod ganddo ei strwythur prisio ei hun. Gofynnir ichi dalu MiNightVet yn uniongyrchol ar adeg y driniaeth. Fel sy’n arferol gyda’r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal brys, gallwch ddisgwyl i’r ffioedd hyn fod yn uwch na’r ffioedd yn ystod y dydd er mwyn adlewyrchu’r staff ychwanegol a’r gofynion sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaeth brys penodedig dros nos, ar benwythnosau ac ar wyliau cyhoeddus.
Os yw eich anifail anwes yn cael triniaeth frys y tu allan i oriau, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â Seren Vets ar ôl inni ailagor fel y gellir trefnu unrhyw driniaeth barhaus, meddyginiaethau neu apwyntiadau dilynol yn brydlon. Pan fo’n briodol, byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â MiNightVet er mwyn sicrhau parhad gofal a chael copïau o gofnodion clinigol eich anifail anwes sy’n ymwneud â’i driniaeth frys.
Gwneud penderfyniadau mewn argyfwng
Mewn argyfwng, lles eich anifail anwes yw ein prif flaenoriaeth bob amser. Lle bo modd, bydd y milfeddyg sy’n gofalu am eich anifail anwes yn trafod yr ymchwiliadau a argymhellir, yr opsiynau triniaeth a’r costau tebygol â chi cyn dechrau triniaeth. Fodd bynnag, os oes angen triniaeth frys i leddfu poen, atal dioddefaint diangen neu ddiogelu bywyd, ac nad yw’n bosibl cysylltu â chi er gwaethaf ymdrechion rhesymol, caiff y milfeddyg ddarparu’r driniaeth y mae’n ei hystyried yn angenrheidiol ar unwaith er budd gorau eich anifail anwes, yn unol â’i gyfrifoldebau proffesiynol.
Adnoddau ar y wefan
Os ydych yn ansicr a oes angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng ar eich anifail anwes, gallai’r Canllaw i Symptomau a’r Canllaw i Wenwynau ar wefan Seren Vets fod o gymorth. Canllawiau cyffredinol yn unig yw’r adnoddau hyn (a ddarperir gan drydydd parti, VetHelpDirect), ac ni ddylid byth eu defnyddio yn lle cyngor milfeddygol proffesiynol. Os ydych yn pryderu am iechyd eich anifail anwes, rydym yn eich cynghori i gysylltu â milfeddyg yn ddi-oed.
7. Derbyn i’r ysbyty a gofal cleifion mewnol
Os oes angen derbyn eich anifail anwes yn ystod ein horiau agor arferol, byddwn yn darparu triniaeth filfeddygol, gofal nyrsio a monitro priodol drwy gydol ei arhosiad. Bydd pob claf yn cael cynllun gofal unigol ar sail ei gyflwr a’i anghenion clinigol. Gall hyn gynnwys meddyginiaethau, hylifau mewnwythiennol, lleddfu poen, ymchwiliadau diagnostig neu arsylwi’n barhaus gan ein timau milfeddygol a nyrsio.
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi
Rydym yn deall y gall gadael eich anifail anwes gyda ni beri pryder. Ein nod bob amser fydd rhoi gwybod ichi am ei gynnydd a chysylltu â chi os bydd unrhyw newidiadau sylweddol yn ei gyflwr, ei gynllun triniaeth neu’r costau a ragwelir. Sicrhewch fod gennym eich rhif ffôn cyfredol fel y gallwn gysylltu â chi tra bo’ch anifail anwes yn ein gofal.
Gofal dros nos
Mae Seren Vets yn derbyn cleifion i’r ysbyty yn ystod y dydd yn unig ac nid yw’n cadw cleifion yn yr ysbyty dros nos. Os oes angen monitro neu drin eich anifail anwes yn barhaus y tu allan i’n horiau agor arferol, byddwn yn trafod hyn â chi a, phan fo’n briodol, yn trefnu ei drosglwyddo i MiNightVet, ein darparwr penodedig y tu allan i oriau, neu i ysbyty milfeddygol addas arall. Byddwn yn sicrhau bod y practis sy’n derbyn eich anifail anwes yn cael ei hanes clinigol ac unrhyw wybodaeth berthnasol er mwyn cynnal parhad gofal.
Rhyddhau eich anifail anwes
Cyn rhyddhau eich anifail anwes, byddwn yn esbonio unrhyw feddyginiaethau, cyfarwyddiadau gofal yn y cartref, apwyntiadau dilynol ac unrhyw driniaeth barhaus y gall fod ei hangen. Mae croeso ichi ofyn unrhyw gwestiynau cyn mynd â’ch anifail anwes adref. Rydym am ichi deimlo’n hyderus wrth ofalu amdano tra bydd yn gwella.
Polisi ar fwydo bwyd amrwd
Yn Seren Vets, rydym yn parchu bod gan berchnogion safbwyntiau a dewisiadau gwahanol ynghylch bwydo eu hanifeiliaid anwes, ac rydym yn cydnabod bod rhai cŵn a chathod yn cael eu bwydo ar ddeiet o fwyd amrwd. Fel practis milfeddygol, mae gennym gyfrifoldeb i gynnal safonau uchel o ran hylendid a rheoli heintiau er mwyn diogelu ein cleifion, eu perchnogion a’n staff. Mae tystiolaeth wyddonol y gall anifeiliaid anwes sy’n bwyta bwyd amrwd fod yn fwy tebygol o gario a rhyddhau bacteria a allai fod yn niweidiol, gan gynnwys bacteria a all beri risg i anifeiliaid eraill a phobl. Mae hyn yn peri pryder arbennig mewn ysbyty milfeddygol, lle gall rhai cleifion fod yn sâl neu fod â system imiwnedd wan. Am y rheswm hwn, ni fyddwn yn rhoi bwyd amrwd i unrhyw glaf yn ystod ei arhosiad yn Seren Vets. Ni chaniateir dod â bwyd amrwd i’r practis, ei storio na’i baratoi yno, na’i roi i anifeiliaid yno. Rydym yn deall y gall rhai anifeiliaid anwes fod ag anoddefiadau bwyd, alergeddau neu anghenion maethol penodol. Os yw eich anifail anwes yn bwyta bwyd amrwd, trafodwch hyn â’n tîm cyn iddo gael ei dderbyn er mwyn inni wneud trefniadau addas.
Os oes gan anifail anwes anghenion deietegol penodol, mae croeso i’w berchennog ddarparu bwyd gwlyb neu sych addas a baratowyd yn fasnachol fel dewis arall, neu gallwn ni ddarparu dewis arall addas. Byddwn yn sicrhau y cynigir deiet priodol, cyflawn a chytbwys i’ch anifail anwes yn ystod ei arhosiad. Bydd ein tîm yn trafod unrhyw ofynion bwydo unigol â chi. Diolch am eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad. Mae’r mesurau hyn yn ein helpu i leihau’r risg o heintiau ac i gynnal amgylchedd diogel i’n holl gleifion, cleientiaid a staff.
8. Gweithdrefnau llawfeddygol ac anesthesia
Os oes angen llawdriniaeth neu anesthetig ar eich anifail anwes, bydd ein tîm yn egluro’r driniaeth a argymhellir, yn trafod y manteision disgwyliedig a’r risgiau posibl, ac yn rhoi amcangyfrif o’r costau a ragwelir lle bynnag y bo modd.
Cydsyniad
Cyn cynnal unrhyw weithdrefn, byddwn yn gofyn ichi lofnodi ffurflen gydsynio sy’n cadarnhau eich bod yn deall y driniaeth arfaethedig ac yn ein hawdurdodi i fwrw ymlaen. Pan fo’n briodol, byddwn yn trafod opsiynau triniaeth eraill, canlyniadau tebygol ac unrhyw risgiau sylweddol i’ch helpu i wneud penderfyniad gwybodus.
Gofal cyn llawdriniaeth
Cyn derbyn eich anifail anwes ar gyfer llawdriniaeth, byddwn yn rhoi cyfarwyddiadau clir am yr amseroedd derbyn, ymprydio ac unrhyw feddyginiaeth y dylid ei rhoi cyn y weithdrefn. Gweler ein Taflen wybodaeth i gleientiaid cyn llawdriniaeth am ragor o wybodaeth. Mae’n bwysig dilyn y cyfarwyddiadau hyn yn ofalus. Gall methu â gwneud hynny gynyddu’r risgiau sy’n gysylltiedig ag anesthesia neu achosi oedi cyn cynnal gweithdrefn eich anifail anwes. Os bydd eich anifail anwes yn mynd yn sâl cyn y llawdriniaeth a drefnwyd, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl, gan y gallai fod yn fwy diogel gohirio’r weithdrefn.
Yn ystod y weithdrefn
Mae aelodau o’n tîm milfeddygol a nyrsio sydd wedi cael hyfforddiant priodol yn cadw golwg fanwl ar bob claf sy’n cael anesthesia, gan ddefnyddio offer monitro sy’n addas i’r weithdrefn dan sylw. Diogelwch, cysur a lles eich anifail anwes yw ein blaenoriaeth bob amser.
O bryd i’w gilydd, yn ystod gweithdrefn, gallwn ganfod pethau annisgwyl neu gall cymhlethdodau godi. Os oes angen triniaeth ychwanegol, fel arfer byddwn yn cysylltu â chi i drafod yr opsiynau cyn bwrw ymlaen, lle bynnag y bo’n ymarferol ac yn ddiogel gwneud hynny. Fodd bynnag, os oes angen gweithredu ar unwaith i leddfu poen, atal dioddefaint diangen neu ddiogelu bywyd neu les eich anifail anwes, gallwn ddarparu triniaeth ychwanegol sydd, yn ein barn ni, er budd gorau eich anifail anwes.
Fel arfer, ein nod fydd cwblhau’r weithdrefn angenrheidiol o dan un anesthetig lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd mae’n bosibl y bydd angen cyfyngu ar weithdrefn neu roi triniaeth bellach o dan anesthetig arall os ystyrir bod hyn er budd gorau eich anifail.
Risgiau anesthesia a llawdriniaeth
Er y cymerir pob rhagofal i leihau risgiau, mae rhywfaint o risg ynghlwm wrth bob anesthetig a phob gweithdrefn lawfeddygol. Gall ffactorau megis oedran, brid, cyflyrau meddygol sylfaenol a natur y weithdrefn oll ddylanwadu ar risgiau anesthesia a llawdriniaeth. Gall rhai gweithdrefnau beri mwy o risg, a gall clefyd sydd eisoes yn bresennol neu sydd heb ei ddiagnosio gynyddu’r risgiau. Gall risgiau anesthesia a gweithdrefnau llawfeddygol neu ddeintyddol gynnwys cymhlethdodau sy’n gysylltiedig ag anesthesia cyffredinol, gwaedu, haint, poen, oedi wrth wella, pwythau’n agor, adweithiau i feddyginiaethau ac, mewn achosion prin, anaf difrifol neu farwolaeth. Gall fod risgiau eraill hefyd. Gall triniaethau deintyddol lle mae angen tynnu dant beri risg o dorri’r ên hefyd, yn enwedig os yw’r claf yn gi neu’n gath o faint llai, os oes clefyd difrifol yn y dannedd neu’r esgyrn, neu os yw’r ddau ffactor yn berthnasol.
Bydd eich milfeddyg yn trafod unrhyw bryderon penodol am eich anifail anwes cyn y driniaeth. Gellir argymell profion gwaed cyn anesthesia neu ymchwiliadau ychwanegol ar gyfer rhai cleifion i helpu i asesu a yw anesthesia’n addas iddynt ac i helpu i gynllunio triniaeth.
Ar ôl y weithdrefn
Pan fydd eich anifail anwes wedi gwella’n ddigonol, byddwn yn trefnu ei ryddhau ac yn rhoi cyngor ar ofal yn y cartref, meddyginiaethau, cyfyngu ar ymarfer corff ac unrhyw apwyntiadau dilynol. Dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir wrth ryddhau eich anifail anwes yn ofalus a chysylltwch â ni’n brydlon os oes gennych unrhyw bryderon am ei adferiad.
Er bod cymhlethdodau’n anghyffredin, gallant godi o bryd i’w gilydd er gwaethaf triniaeth a gofal priodol. Os ydych yn pryderu am eich anifail anwes ar ôl llawdriniaeth, rydym yn eich annog i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl er mwyn inni allu ei asesu a rhoi cyngor neu driniaeth briodol. Os oes angen cyngor brys arnoch pan fydd y practis ar gau, cysylltwch â MiNightVet yng Nghaerfyrddin, ein darparwr gwasanaeth y tu allan i oriau (gweler Adran 6).
Cymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth
Mae cymhlethdodau’n anghyffredin ond, yn anffodus, maent yn digwydd mewn nifer fach o achosion. Gall cyfuniad o ffactorau sy’n ymwneud â’r claf a’r amgylchedd, ac weithiau ffactorau llawfeddygol neu feddygol, gyfrannu atynt. Fel practis, byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i ddatrys unrhyw gymhlethdodau ac yn ceisio bod mor gymwynasgar â phosibl o ran codi tâl am y driniaeth angenrheidiol. Bydd angen trafod hyn fesul achos gyda Thîm Rheoli’r practis.
9. Ymweliadau cartref
Lle bynnag y bo modd, rydym yn argymell archwilio anifeiliaid anwes yn y practis. Mae ein cyfleusterau, ein hoffer a’n tîm cymorth yn ein galluogi i ddarparu ymchwiliadau diagnostig, triniaeth a gofal cleifion o safon uwch nag sy’n bosibl fel arfer yn y cartref. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall ymweliad cartref fod yr opsiwn mwyaf priodol mewn rhai amgylchiadau. Gall hyn gynnwys gofal diwedd oes pan fo’n well gan y perchennog gael y gofal hwnnw yng nghysur y cartref.
Byddwn bob amser yn ceisio trefnu ymweliadau cartref pan allwn, ond bydd hyn yn dibynnu ar argaeledd ein tîm milfeddygol, a dylid trefnu’r ymweliad ymlaen llaw lle bynnag y bo modd. Ni allwn warantu y bydd ymweliadau cartref brys neu ar fyr rybudd ar gael. Mewn argyfwng, fel arfer mae mynd â’ch anifail anwes i’r practis er ei fudd gorau, lle mae ein cyfleusterau a’n tîm clinigol ar gael ar unwaith. Eich cyfrifoldeb chi fel perchennog yr anifail anwes o hyd yw sicrhau bod modd ei gludo i’r practis.
Sylwch hefyd mai cyfyngedig yw’r ystod o archwiliadau, triniaethau a gweithdrefnau y gellir eu cynnal yn ystod ymweliad cartref. Os oes angen delweddu diagnostig, llawdriniaeth, derbyn i’r ysbyty neu offer arbenigol ar eich anifail anwes, gallwn argymell dod ag ef i’r practis i gael asesiad a thriniaeth bellach.
Codir ffi am ymweliad cartref yn ychwanegol at gost unrhyw ymgynghoriad, triniaeth, meddyginiaeth neu weithdrefn a ddarperir. Mae ein ffioedd cyfredol ar gael ar gais.
10. Atgyfeiriadau ac ail farn
Yn Seren Vets, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal o’r safon uchaf i bob claf. Er y gallwn wneud diagnosis o’r mwyafrif helaeth o gyflyrau meddygol a llawfeddygol a’u trin yn y practis, weithiau gallai eich anifail anwes elwa ar arbenigedd ychwanegol, offer diagnostig uwch neu driniaeth arbenigol, a byddai angen atgyfeiriad o ganlyniad. Gallai’r atgyfeiriad fod am gyngor yn unig (pan fydd un o’n milfeddygon yn trafod achos eich anifail anwes ag arbenigwr) neu efallai y bydd angen i’ch anifail anwes fynd i ganolfan atgyfeirio i gael ymchwiliadau neu driniaeth.
Atgyfeirio at arbenigwr
Os credwn fod atgyfeirio er budd gorau eich anifail anwes, byddwn yn trafod hyn â chi ac yn egluro’r rhesymau dros ein hargymhelliad. Gellir argymell atgyfeirio am amryw o resymau, gan gynnwys y canlynol.
- Ymchwiliadau diagnostig uwch megis sgan CT neu MRI
- Gweithdrefnau llawfeddygol cymhleth
- Arbenigedd meddygol neu lawfeddygol
- Gofal dwys parhaus neu ofal dros nos mewn ysbyty pan fo’n briodol
Byddwn yn egluro’r opsiynau atgyfeirio sydd ar gael, yn rhoi amcangyfrif o’r costau tebygol lle bo modd ac, gyda’ch cydsyniad, yn trefnu’r atgyfeiriad drwy anfon hanes clinigol eich anifail anwes, canlyniadau diagnostig ac unrhyw ddelweddau neu adroddiadau labordy perthnasol. Chi sy’n penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â’r atgyfeiriad, a byddwn bob amser yn trafod yr opsiynau sydd ar gael i’ch helpu i wneud dewis gwybodus. Sylwch fod gan ganolfannau atgyfeirio allanol eu prisiau eu hunain. Nid oes ganddynt unrhyw gysylltiad ariannol â Seren Vets ac nid oes budd ariannol i Seren Vets. Sylwch hefyd fod rhai canolfannau atgyfeirio yn gofyn am brawf am Brucella cyn derbyn atgyfeiriad ar gyfer ci sydd wedi teithio dramor neu wedi’i fewnforio.
Ail farn
Rydym yn deall y gallech fod am gael ail farn ynghylch diagnosis neu driniaeth eich anifail anwes o bryd i’w gilydd. Os hoffech i filfeddyg arall yn Seren Vets adolygu achos eich anifail anwes, rydym yn hapus i drefnu hyn lle bynnag y bo modd. Yn yr un modd, os byddai’n well gennych gael ail farn gan bractis milfeddygol neu ganolfan atgyfeirio arall, byddwn yn darparu copïau o gofnodion clinigol eich anifail anwes ac unrhyw wybodaeth ddiagnostig berthnasol yn unol â’n rhwymedigaethau proffesiynol a’r gofynion diogelu data.
Rydym yn hapus i dderbyn achosion i roi ail farn. Gall fod angen apwyntiad hwy ar gyfer ymgynghoriad am ail farn, a gall tâl ychwanegol fod yn berthnasol. Gofynnwn ichi drefnu bod hanes meddygol blaenorol llawn eich anifail anwes yn cael ei anfon atom cyn yr apwyntiad.
Clinigau atgyfeirio sy’n ymweld
O bryd i’w gilydd, gall Seren Vets groesawu clinigwyr atgyfeirio neu arbenigwyr sy’n ymweld i ddarparu gofal uwch ar ein safle. Rydych yn cydnabod ac yn cytuno bod y clinigwyr hyn yn gweithredu fel contractwyr annibynnol ac fel endidau cyfreithiol ar wahân, ac nad ydynt yn gyflogeion, yn bartneriaid nac yn asiantau i Seren Vets. Y clinigydd sy’n ymweld yn unig sy’n cadw’r ymreolaeth glinigol a’r cyfrifoldeb meddygol dros asesu a thrin ei gleifion, cynnal eu gweithdrefnau a darparu eu gofal yn syth ar ôl llawdriniaeth. Mae Seren Vets yn darparu’r lleoliad yn unig ac nid yw’n atebol am benderfyniadau na gweithredoedd clinigol y clinig annibynnol. Gellir anfonebu ar wahân drwy’r clinig sy’n ymweld am ffioedd y gwasanaethau y mae’n eu darparu, neu gall Seren Vets gasglu’r ffioedd fel asiant bilio ar ei ran. Drwy gydsynio i ymgynghoriad neu weithdrefn gyda chlinig sy’n ymweld, rydych yn ein hawdurdodi i rannu hanes meddygol eich anifail anwes, ei ganlyniadau diagnostig a’ch manylion cyswllt personol â’r clinig er mwyn sicrhau parhad gofal.
Ymgyngoriadau ac atgyfeiriadau ar gyfer anifeiliaid egsotig
Mae ein practis yn cynnig gofal milfeddygol i amrywiaeth o anifeiliaid anwes egsotig, gan gynnwys cwningod, mamaliaid bach, adar, ymlusgiaid a llawer o rywogaethau eraill. Fodd bynnag, mae ein milfeddygon sydd â phrofiad ac arbenigedd ychwanegol ym maes meddygaeth anifeiliaid egsotig yn gweithio yn y practis mewn sesiynau cyfyngedig a drefnir ymlaen llaw ac nid ydynt ar gael bob dydd. Rhaid trefnu apwyntiadau’n benodol gyda’r milfeddygon hyn, a bydd hynny’n dibynnu ar eu hargaeledd. Fel arfer, un o’n milfeddygon cyffredinol sy’n darparu gofal barn gyntaf fydd yn cynnal ymgyngoriadau a drefnir y tu allan i’r sesiynau hyn. Efallai na fydd gan y milfeddyg hwnnw arbenigedd ychwanegol ym maes meddygaeth anifeiliaid egsotig.
Nid ydym yn darparu gwasanaeth atgyfeirio parhaus na chyffredinol ar gyfer anifeiliaid egsotig, ac nid yw atgyfeiriad i’r practis ei hun yn gwarantu apwyntiad gyda milfeddyg â phrofiad ac arbenigedd mewn meddygaeth anifeiliaid egsotig. Ni ddylai practisau milfeddygol sy’n atgyfeirio gyfarwyddo cleientiaid i gofrestru neu drefnu apwyntiadau arferol gyda ni ar gyfer asesiad arbenigol o anifail egsotig heb gytundeb ymlaen llaw. Practis milfeddygol arferol yr anifail sy’n parhau’n gyfrifol am ofal barn gyntaf a gofal brys oni bai bod trefniadau eraill wedi’u cytuno’n benodol. Pan fo’n briodol, efallai y gallwn gynnig asesiad cychwynnol ar gyfer barn gyntaf neu asesiad brys, yn dibynnu ar argaeledd milfeddygon a’r hyn y gall y tîm sydd ar ddyletswydd ei ddarparu.
Sylwch hefyd na allwn ymateb i geisiadau am gyngor gan gleientiaid newydd ynghylch cleifion egsotig nad ydynt wedi cael eu gweld eto gan un o’n milfeddygon, gan fod angen apwyntiad i’w hasesu cyn y gellir rhoi unrhyw gyngor neu feddyginiaeth. Fodd bynnag, rydym yn hapus i drafod achosion â milfeddygon sy’n atgyfeirio ac sydd wedi archwilio’r anifail.
11. Hyfforddi myfyrwyr
Mae Seren Vets yn falch o fod yn Bractis Hyfforddi Nyrsys Milfeddygol achrededig ac mae wedi ymrwymo i gefnogi addysg y genhedlaeth nesaf o weithwyr milfeddygol proffesiynol. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, gall myfyrwyr nyrsio milfeddygol, myfyrwyr milfeddygaeth sy’n ymgymryd ag Astudiaethau Allanol (Extra-Mural Studies, EMS) ac aelodau eraill o’r tîm clinigol sydd dan oruchwyliaeth gymryd rhan yng ngofal eich anifail anwes o dan oruchwyliaeth uniongyrchol milfeddyg profiadol neu nyrs filfeddygol gofrestredig. Gall hyn gynnwys arsylwi ar ymgyngoriadau, archwiliadau clinigol, gweithdrefnau diagnostig, gofal nyrsio a gweithdrefnau llawfeddygol neu anesthetig, neu gynorthwyo gyda’r rhain, yn dibynnu ar lefel hyfforddiant a phrofiad y myfyriwr. Mae pob myfyriwr yn gweithio o fewn terfynau ei hyfforddiant a’i gymhwysedd. Lles y claf fydd ein prif ystyriaeth o hyd, a’r clinigwr sy’n goruchwylio fydd bob amser yn gyfrifol am ofal eich anifail anwes. Os byddai’n well gennych i fyfyrwyr beidio â chymryd rhan yn nhriniaeth neu ymgyngoriadau eich anifail anwes, rhowch wybod i aelod o’r tîm cyn eich apwyntiad. Byddwn yn gwneud ein gorau i barchu eich dymuniadau lle bo hynny’n rhesymol bosibl.
12. Meddyginiaethau a phresgripsiynau
Mae Seren Vets yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol a Chod Ymddygiad Proffesiynol Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) wrth ragnodi a chyflenwi meddyginiaethau milfeddygol.
Rhagnodi Meddyginiaethau
Dim ond ar gyfer anifeiliaid yr ystyrir eu bod ‘dan ein gofal’ y gellir rhagnodi Meddyginiaethau Milfeddygol ar Bresgripsiwn yn Unig (POM-Vs). Mae hyn yn golygu bod rhaid i un o’n milfeddygon wybod digon am iechyd eich anifail anwes a bod wedi cynnal asesiad clinigol yn ddiweddar yn unol â’r canllawiau proffesiynol cyfredol. Os nad oes unrhyw aelod o’n tîm wedi gweld eich anifail o’r blaen, bydd angen trefnu ymgynghoriad gydag un o’n milfeddygon cyn y gellir cyflenwi unrhyw feddyginiaeth ar bresgripsiwn. Bydd pa mor aml y bydd angen archwilio eich anifail anwes yn dibynnu ar ei gyflwr unigol a’r feddyginiaeth sy’n cael ei rhagnodi. Ar gyfer rhai meddyginiaethau neu mewn rhai amgylchiadau, gan gynnwys rhai cyffuriau a reolir, gwrthfiotigau, meddyginiaethau gwrthbarasitig, cyflyrau sydd newydd gael diagnosis neu achosion lle mae iechyd yr anifail wedi newid, efallai y bydd angen archwiliad corfforol neu waith monitro ychwanegol cyn y gellir rhoi presgripsiwn. Bydd eich milfeddyg yn rhoi gwybod ichi pryd y dylid ailarchwilio eich anifail anwes. Codir tâl ymgynghori am archwiliadau yn unol â’n rhestr brisiau gyfredol. Weithiau bydd angen cynnal ymchwiliadau hefyd, megis profion gwaed, profion wrin neu gymryd samplau â swab, cyn rhagnodi meddyginiaeth. Efallai y bydd angen pwyso anifeiliaid ifanc yn rheolaidd nes bod eu pwysau’n sefydlog.
Cyflenwi Meddyginiaethau
Gallwn gyflenwi’r rhan fwyaf o feddyginiaethau’n uniongyrchol o’r practis. Os nad yw meddyginiaeth yn cael ei chadw mewn stoc fel arfer, efallai y bydd angen ei harchebu’n arbennig. Gofynnwn felly ichi roi cymaint o rybudd â phosibl wrth ofyn am ragor o feddyginiaeth, ac yn ddelfrydol roi o leiaf ddau ddiwrnod gwaith o rybudd cyn ei chasglu.
Presgripsiynau Ysgrifenedig
Er ein bod bob amser yn ceisio cadw prisiau ein meddyginiaethau’n gystadleuol ac yn deg, mae gennych hawl i ofyn am bresgripsiwn ysgrifenedig er mwyn cael y feddyginiaeth gan bractis milfeddygol arall neu fferyllfa. Fel arfer gofynnwn am o leiaf 24 awr o rybudd i baratoi presgripsiwn ysgrifenedig. Codir ffi safonol am roi presgripsiynau ysgrifenedig. Mae’r ffi’n adlewyrchu’r amser proffesiynol a dreulir yn asesu hanes clinigol eich anifail anwes, yn sicrhau bod y feddyginiaeth yn dal yn briodol ac yn paratoi’r presgripsiwn. Mae’r un gofynion cyfreithiol a phroffesiynol yn berthnasol i bresgripsiynau ysgrifenedig ag i feddyginiaethau a gyflenwir yn uniongyrchol gan Seren Vets. At ddefnydd yn y DU yn unig y mae presgripsiynau ysgrifenedig yn ddilys, ac am hyd at 6 mis (neu 28 diwrnod yn achos cyffuriau a reolir). Bydd cyfnod dilysrwydd y presgripsiwn yn dibynnu ar y math o feddyginiaeth, cyflwr y claf a pha mor sefydlog yw’r claf.
Sylwch, o fis Medi 2026 ymlaen, mai dim ond presgripsiynau ysgrifenedig a anfonir yn uniongyrchol o’n practis i fferyllfa ar-lein o’ch dewis y byddwn yn gallu eu darparu. Ni fydd modd casglu copïau papur o bresgripsiynau o’r practis. Pan ofynnwch am bresgripsiwn ysgrifenedig, rhowch wybod inni pa fferyllfa ar-lein rydych wedi’i dewis a beth yw ei chyfeiriad e-bost perthnasol. Mae hyn yn golygu y bydd angen ichi ymchwilio i’ch opsiynau a phenderfynu pa fferyllfa ar-lein yr hoffech ei defnyddio cyn cyflwyno’ch cais inni.
Meddyginiaethau Trwyddedig
Lle bo modd, byddwn yn rhagnodi meddyginiaethau sydd wedi’u trwyddedu at ddefnydd milfeddygol yn y DU. Mewn rhai amgylchiadau, fodd bynnag, nid oes meddyginiaeth filfeddygol drwyddedig addas ar gael. Lle bo’n briodol, gall eich milfeddyg ragnodi meddyginiaeth arall yn unol â chanllawiau cyfreithiol trefn flaenoriaeth y DU ar gyfer rhagnodi meddyginiaethau milfeddygol (‘UK Veterinary Prescribing Cascade’). Mae unrhyw ddefnydd o gyffur y tu allan i delerau ei drwydded bob amser yn seiliedig ar ddadansoddiad o’r risgiau a’r manteision. Efallai y gofynnir ichi lofnodi ffurflen gydsynio ar gyfer defnydd ‘y tu allan i delerau’r drwydded’, a bydd ein tîm milfeddygol bob amser yn hapus i drafod pam y dewiswyd meddyginiaeth ar gyfer defnydd o’r fath. Cofiwch, er bod rhai meddyginiaethau i bobl ar gael am brisiau sylweddol is na’r feddyginiaeth filfeddygol drwyddedig gyfatebol, dim ond os nad oes dewis trwyddedig arall ar gyfer anifeiliaid ar gael inni y gallwn ddefnyddio cynhyrchion i bobl nad ydynt wedi’u trwyddedu at ddefnydd milfeddygol.
Meddyginiaethau Heb eu Defnyddio
Oherwydd y rheoliadau, ni all Seren Vets dderbyn meddyginiaethau yn ôl i roi ad-daliad unwaith y byddant wedi gadael y practis. Gellir dychwelyd meddyginiaethau milfeddygol nad oes eu hangen neu sydd wedi mynd heibio i’w dyddiad dod i ben er mwyn inni eu gwaredu’n ddiogel.
Monitro Meddyginiaethau Hirdymor
Mae llawer o gyflyrau meddygol hirdymor yn gofyn am feddyginiaeth barhaus a monitro milfeddygol rheolaidd i sicrhau bod y driniaeth yn parhau’n ddiogel ac yn effeithiol.
Bydd angen i filfeddyg archwilio eich anifail anwes o bryd i’w gilydd cyn y gellir cyflenwi rhagor o feddyginiaeth ar bresgripsiwn. Pennir yr ysbeidiau yn ôl cyflwr unigol yr anifail a’r canllawiau proffesiynol cyfredol. Bydd hyn o leiaf unwaith bob 6 mis, ond efallai y bydd angen archwiliadau amlach ar gyfer rhai cyflyrau nag eraill. Gall yr ysbeidiau fod yn fyrrach ar gyfer anifeiliaid sy’n llai sefydlog neu’n sâl, neu ar gyfer cyflyrau sydd newydd gael diagnosis, lle gall fod angen addasu’r dos yn aml yn ystod yr wythnosau neu’r misoedd cyntaf. Bydd eich milfeddyg yn trafod amserlen fonitro briodol gyda chi.
Mae rhai meddyginiaethau’n gofyn am brofion gwaed neu ymchwiliadau eraill o bryd i’w gilydd i fonitro eu heffeithiolrwydd ac i ganfod unrhyw sgil-effeithiau posibl. Pan argymhellir monitro, mae’n rhan bwysig o driniaeth eich anifail anwes ac yn helpu i sicrhau y gellir parhau i ddefnyddio’r feddyginiaeth yn ddiogel.
Archebu Rhagor o Feddyginiaeth
Er mwyn osgoi torri ar draws triniaeth eich anifail anwes, gofynnwch am ragor o feddyginiaeth ymhell cyn i’ch cyflenwad presennol ddod i ben. Mae angen o leiaf 24 awr o rybudd ar gyfer ailbresgripsiynau (yn ddelfrydol, o leiaf 2 ddiwrnod gwaith) gan nad yw pob meddyginiaeth yn cael ei chadw mewn stoc. Os nad yw eich anifail anwes wedi cael ei archwilio o fewn y cyfnod a argymhellir, neu os oes angen monitro ychwanegol, efallai y bydd angen trefnu apwyntiad cyn y gellir rhagnodi rhagor o feddyginiaeth. Cyfrifoldeb y cleient yw gofyn am unrhyw feddyginiaeth mewn da bryd i drefnu apwyntiadau o’r fath.
Cyffuriau a Reolir
Dosberthir rhai meddyginiaethau yn Gyffuriau a Reolir ac mae cyfyngiadau cyfreithiol ychwanegol ar eu rhagnodi, eu cyflenwi a chadw cofnodion amdanynt. Dim ond yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol y gellir cyflenwi’r meddyginiaethau hyn, ac efallai y bydd angen archwiliadau amlach neu gyfnodau presgripsiwn byrrach nag ar gyfer meddyginiaethau eraill. Yn y rhan fwyaf o achosion ni allwn gyflenwi mwy na digon o’r meddyginiaethau hyn ar gyfer 28 diwrnod. Dim ond am 28 diwrnod y bydd presgripsiynau ysgrifenedig ar gyfer Cyffuriau a Reolir yn ddilys, a dim ond unwaith y gellir eu defnyddio (ni chaniateir cyflenwi Cyffuriau a Reolir fwy nag unwaith ar yr un presgripsiwn).
13. Gofal iechyd ataliol, y cynllun iechyd a negeseuon atgoffa
Negeseuon Atgoffa
Mae Seren Vets yn darparu gwasanaeth atgoffa am ddim i’ch helpu i gofio pryd mae angen apwyntiadau, brechiadau, triniaethau yn erbyn parasitiaid a gofal iechyd rheolaidd neu ataliol arall ar eich anifail anwes. Gellir anfon y negeseuon atgoffa hyn drwy neges destun, e-bost neu ddull cyfathrebu arall gan ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd gennym ar eich cyfer. Mae’n hanfodol diweddaru’ch manylion cyswllt a’ch dewisiadau cyfathrebu bob blwyddyn er mwyn ichi barhau i gael negeseuon atgoffa.
Cofiwch ein bod yn darparu’r gwasanaeth hwn fel cwrteisi yn unig ac mai cyfrifoldeb y cleient bob amser yw sicrhau bod brechiadau a gofynion gofal iechyd eraill eich anifail anwes yn gyfredol. Ni allwn warantu y caiff neges atgoffa ei hanfon na’i derbyn, nac y gweithredir arni. Os na chewch neges atgoffa pan fyddwch yn disgwyl un, cysylltwch â ni. Cofiwch hefyd fod y neges atgoffa nesaf yn cael ei sbarduno pan gyflenwir triniaeth gan y practis. Os byddwch yn rhoi’r driniaeth gartref yn ddiweddarach, ni fydd y neges atgoffa’n adlewyrchu’r oedi hwn. Mae’n bwysig eich bod chi’n cadw cofnod o bryd y rhoddir pob triniaeth a phryd y bydd angen ei rhoi eto.
Cynllun Iechyd Anifeiliaid Anwes
Mae Seren Vets yn cynnig Cynllun Iechyd Anifeiliaid Anwes sy’n eich galluogi i ledaenu cost gofal iechyd ataliol drwy daliadau misol dros gyfnod o 12 mis. Mae rhagor o wybodaeth yn ein taflen Cynllun Iechyd Anifeiliaid Anwes, sydd ar gael i’w chasglu o dderbynfa’r practis ac ar ein gwefan https://www.serenvets.co.uk/pet-health-plan/. Rhaid ichi fod wedi’ch cofrestru gyda’r practis i ymuno â’n Cynllun Iechyd.
Telir drwy ddebyd uniongyrchol misol a Vetsure, y cwmni sy’n rheoli ein Cynllun Iechyd, sy’n casglu’r taliadau. Cymerir y taliad cyntaf ar y diwrnod y byddwch yn ymuno â’r Cynllun Iechyd Anifeiliaid Anwes a bydd yn cynnwys ffi weinyddu untro o £5.00. Cymerir y debyd uniongyrchol cyntaf fis ar ôl dyddiad ymuno. Os hoffech newid dyddiad y debyd uniongyrchol, cysylltwch â Vetsure. Sefydlir y cynllun am 12 mis, a chaiff yr holl driniaethau a gostyngiadau a ddarperir eu rhannu dros y 12 mis. Pan ymunwch â’r cynllun, byddwch yn ymrwymo i gytundeb cychwynnol o 12 mis gyda Vetsure. Os dewiswch ganslo yn ystod y cyfnod hwn, efallai y bydd yn rhaid ichi dalu’r balans sy’n weddill o dan eich cytundeb â Vetsure. Ar ôl y 12 mis cyntaf, bydd y cynllun yn parhau’n awtomatig o fis i fis ar sail dreigl oni chaiff ei ganslo. Efallai y bydd balans i’w dalu wrth ganslo, yn dibynnu ar nifer y triniaethau a gawsoch a faint rydych wedi’i dalu tuag at y cynllun. Byddwch yn atebol am dalu unrhyw wahaniaeth rhwng cost y gostyngiadau a gawsoch a’r taliadau a wnaed hyd at y dyddiad hwnnw. Bydd ein tîm yn hapus i drafod unrhyw gostau posibl cyn ichi ganslo’ch cynllun.
Gallwch ddarllen Telerau ac Amodau llawn y Cynlluniau Iechyd a ddarperir gan Vetsure yn http://myvetshealthplan.com/website-terms-of-use/. Darllenwch y rhain yn ofalus. Cânt eu hanfon atoch drwy e-bost pan fyddwch wedi cwblhau’ch cais i ymuno â’r Cynllun Iechyd Anifeiliaid Anwes. Gallwch gysylltu â Vetsure gydag unrhyw ymholiadau ar 0800 050 2022.
Mae Gwasanaeth Dosbarthu i’r Cartref hefyd ar gael. Drwy’r gwasanaeth hwn, gall ein cyflenwr anfon triniaethau’r Cynllun Iechyd yn erbyn parasitiaid ar gyfer eich ci neu’ch cath yn uniongyrchol i’ch cartref am gost fach ychwanegol. Sylwch mai dim ond ar ôl i’r anifail dyfu’n llawn a/neu gyrraedd pwysau sefydlog y mae’r gwasanaeth hwn ar gael, er mwyn sicrhau y rhoddir triniaeth o’r cryfder cywir. Royal Mail sy’n darparu’r gwasanaeth gan ddosbarthu’n uniongyrchol o’n cyflenwr, ar ôl i un o’n milfeddygon awdurdodi’r presgripsiwn. Nid yw’r Gwasanaeth Dosbarthu i’r Cartref ar gael ar gyfer y cynllun i gwningod.
Nodwch y pwyntiau canlynol.
- Cyfrifoldeb y cleient bob amser yw sicrhau eich bod yn manteisio ar fuddion y Cynllun Iechyd ac yn archebu ac yn casglu triniaeth yn erbyn parasitiaid ar gyfer eich anifail anwes ar yr adegau priodol. Ni allwn ddarparu triniaethau a fethwyd ar ôl yr adeg y dylid bod wedi’u rhoi.
- Rhaid archebu triniaeth yn erbyn parasitiaid o leiaf 24 awr cyn ei chasglu o’r practis.
- Mae’r rheolau ar gyfer Meddyginiaethau Milfeddygol ar Bresgripsiwn yn Unig (POM-V) yn berthnasol i’r triniaethau yn erbyn parasitiaid sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Iechyd. Mae hyn yn golygu y gall fod angen i un o’n milfeddygon archwilio’ch anifail anwes cyn cyflenwi’r driniaeth.
- Tra bo ci bach neu gath fach yn tyfu, mae angen gwiriadau pwysau rheolaidd i sicrhau bod y driniaeth yn erbyn parasitiaid o’r cryfder cywir.
- Byddwn yn darparu digon o driniaeth yn erbyn parasitiaid i’ch anifail anwes ar gyfer un mis cyn cymryd debyd uniongyrchol y mis cyntaf. Ar yr amod bod y taliad cyntaf yn llwyddiannus, byddwn wedyn yn darparu digon o driniaeth am hyd at dri mis ar y tro.
- Mae’r cynllun yn cynnwys rhai cynhyrchion penodol yn erbyn parasitiaid fel mater o drefn. Ar adegau, gallwn drefnu cynhyrchion amgen yn erbyn parasitiaid ar gais, yn ôl ein disgresiwn. Gall unrhyw drefniant pwrpasol sy’n wahanol i’n cynhyrchion arferol olygu tâl misol ychwanegol. Bydd angen ei drafod â ni a chael ein hawdurdodiad cyn sefydlu’r cynllun.
Cofnodion Brechu
Os yw eich anifail anwes wedi cael brechiadau neu driniaethau ataliol eraill gan bractis milfeddygol arall, rhowch y wybodaeth berthnasol inni fel y gallwn gadw cofnodion clinigol eich anifail anwes yn gyfredol. Os oes angen tystysgrifau brechu ar gyfer teithio, llety dros dro, cystadlaethau neu ddibenion eraill, gwiriwch y gofynion penodol ymlaen llaw gan y gallant amrywio yn ôl yr amgylchiadau.
Tystysgrifau Allforio
Wrth gwblhau gweithdrefnau allforio a theithio dramor, cyfrifoldeb y cleient o hyd yw sicrhau bod yr holl ofynion yn cael eu bodloni.
14. Yswiriant anifeiliaid anwes
Mae Seren Vets yn argymell yn gryf eich bod yn trefnu yswiriant ar gyfer eich anifail anwes i helpu i’ch diogelu rhag costau annisgwyl triniaeth filfeddygol. Rydym yn hapus i roi gwybodaeth gyffredinol am yswiriant anifeiliaid anwes, ond mae rheoliadau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn ein hatal rhag argymell yswirwyr neu bolisïau penodol. Cyfrifoldeb y cleient o hyd yw dewis darparwr yswiriant a lefel o yswiriant sy’n gweddu i’w amgylchiadau. Rydym yn annog pob cleient i ddod yn gyfarwydd â thelerau ac amodau ei bolisi yswiriant cyn i’r driniaeth gael ei rhoi, gan gynnwys unrhyw daliadau dros ben, cyd-daliadau, eithriadau, terfynau’r polisi a therfynau amser ar gyfer cyflwyno hawliad.
Hawliadau Yswiriant
Rhowch wybod inni cyn gynted â phosibl os ydych yn bwriadu gwneud hawliad o dan bolisi yswiriant eich anifail anwes, a gofalwch eich bod wedi llenwi Ffurflen Gwybodaeth Yswiriant i Gleientiaid y practis fel bod gennym y manylion angenrheidiol i’ch helpu gyda’ch hawliad.
Ein dewis cyntaf yw i gleientiaid dalu eu cyfrif â Seren Vets a hawlio’r costau’n ôl oddi wrth eu cwmni yswiriant (Hawliad Anuniongyrchol). Fodd bynnag, rydym yn deall nad yw hyn bob amser yn bosibl. Byddwn yn ystyried Hawliadau Uniongyrchol (lle mae’r yswiriwr yn talu’n uniongyrchol i ni) lle bo’n briodol ac yn ôl ein disgresiwn.
Mae’r amodau canlynol yn berthnasol i Hawliadau Uniongyrchol.
- Rhaid darparu prawf o yswiriant dilys cyn gynted â phosibl ac, os yw’n ymarferol, o fewn 48 awr i’r driniaeth
- Rhaid talu tâl dros ben eich polisi ac unrhyw gyd-daliad perthnasol yn uniongyrchol i Seren Vets
- Rhaid ichi gychwyn eich hawliad yn brydlon ac ymateb i unrhyw geisiadau gan Seren Vets neu’ch cwmni yswiriant heb oedi diangen
- Os bydd oedi wrth brosesu’r hawliad oherwydd bod gwybodaeth ar goll neu fod angen ichi gymryd camau, rydym yn cadw’r hawl i ofyn ichi dalu’n uniongyrchol tra bo’r hawliad yn cael ei ddatrys
Os ydych yn cyflwyno’ch hawliad eich hun ond yn gofyn i’r taliad gael ei wneud yn uniongyrchol i Seren Vets, sicrhewch eich bod wedi cyfarwyddo’ch yswiriwr i wneud hynny.
Os gofynnwch i Seren Vets baratoi a chyflwyno hawliad yswiriant ar eich rhan, codir ffi weinyddu sy’n daladwy unwaith am bob cyflwr ym mhob cyfnod o 12 mis. Mae’r taliadau cyfredol ar gael ar gais ac mae eu manylion yn ein dogfen ar wahân Gwybodaeth Yswiriant i Gleientiaid.
Cyfrifoldebau’r Cleient
Er y gall y practis helpu i gyflwyno hawliadau, eich cyfrifoldeb chi bob amser yw cychwyn unrhyw hawliad a chadw golwg ar ei hynt, cyflwyno unrhyw ddogfennau y mae eich yswiriwr yn gofyn amdanynt o fewn y terfynau amser a nodir yn eich polisi, a sicrhau bod yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani wedi’i darparu.
Mae’r polisi yswiriant yn gontract rhyngoch chi a’ch darparwr yswiriant ac mae’n gwbl ar wahân i Seren Vets. P’un a gyflwynir hawliad yswiriant ai peidio, y cleient cofrestredig sy’n parhau’n gyfrifol am yr holl ffioedd milfeddygol a godir, gan gynnwys y canlynol.
- Unrhyw dâl dros ben o dan y polisi neu unrhyw gyd-daliad
- Triniaethau neu eitemau sydd wedi’u heithrio o dan y polisi
- Costau sy’n uwch na therfyn y polisi
- Unrhyw symiau y mae’r cwmni yswiriant yn gwrthod eu talu am unrhyw reswm
Os bydd y cyfan neu ran o hawliad yn aros heb ei dalu gan eich yswiriwr, chi sy’n parhau’n gyfrifol am dalu’r balans sy’n weddill.
Rhannu Gwybodaeth
Drwy ofyn inni helpu gyda hawliad yswiriant, rydych yn awdurdodi Seren Vets i ddarparu i’ch yswiriwr y cofnodion clinigol, yr anfonebau a’r wybodaeth ategol berthnasol sydd eu hangen i weinyddu’r hawliad.
Rhagor o Wybodaeth
Rydym wedi llunio canllaw ar wahân, Gwybodaeth Yswiriant i Gleientiaid, sy’n esbonio ein gweithdrefnau yswiriant yn fanylach, gan gynnwys sut y caiff hawliadau eu prosesu, y wybodaeth sydd ei hangen arnom a’r cymorth a ddarparwn drwy gydol y broses hawlio. Os oes gennych gwestiynau, bydd aelod o’n tîm yn hapus i helpu.
15. Ffioedd ac amcangyfrifon
Ffioedd
Mae manylion yr holl ffioedd a’r taliadau am feddyginiaethau a chynhyrchion ar gael ar gais. Codir TAW ar y gyfradd gyfredol. Mae ein ffioedd yn seiliedig ar y gwasanaethau, y meddyginiaethau, y nwyddau traul, y profion diagnostig, y gweithdrefnau a’r cyfleusterau a ddarperir, a’r arbenigedd a’r amser sydd eu hangen. Byddwn yn rhoi gwybodaeth glir am ein ffioedd a, lle bo’n briodol, amcangyfrif o gost debygol y driniaeth cyn ei rhoi. Gellir darparu anfonebau manwl fesul eitem ar gyfer yr holl nwyddau a gwasanaethau a ddarperir.
Rydym yn cadw’r hawl i newid ein ffioedd o bryd i’w gilydd. Os cytunwyd eisoes yn ysgrifenedig ar bris sefydlog am driniaeth, bydd y pris hwnnw’n berthnasol yn unol â thelerau’r cytundeb hwnnw.
Amcangyfrifon
Byddwn yn llunio cynlluniau triniaeth ar gyfer eich anifail anwes drwy drafod â chi. Byddwn yn gwneud ein gorau i roi gwybod ichi am y gwahanol opsiynau a allai fod yn briodol i’w ofal. Ar y dechrau, rhowch wybod i’n tîm am unrhyw gwestiynau ynghylch y costau neu unrhyw gyfyngiadau sydd gennych. Gwnewch bob ymdrech i sicrhau eich bod yn deall y costau cyn y driniaeth ac yn ystod y driniaeth.
Mae amcangyfrifon llafar neu ysgrifenedig o gost unrhyw driniaeth neu weithdrefn a argymhellir ar gael bob amser. Rhoddir amcangyfrifon ar sail yr wybodaeth sydd ar gael inni’n rhesymol ar y pryd. Mae amcangyfrif yn rhoi syniad bras o’r costau a ragwelir ac nid yw’n ddyfynbris sefydlog, oni bai ein bod yn cadarnhau’n benodol yn ysgrifenedig ei fod yn bris sefydlog. Mae amcangyfrifon yn ddilys am 30 diwrnod oni chytunir fel arall.
Cofiwch fod cryn ansicrwydd yn rhan o ofal milfeddygol a meddygol a’i bod yn anodd rhagweld beth fydd yn digwydd. Gall cyflwr anifail newid yn ystod triniaeth. Felly, efallai y bydd yn rhaid newid cynlluniau triniaeth ac y gall costau annisgwyl godi. Gall costau ychwanegol godi mewn amgylchiadau fel y rhai canlynol.
- Mae angen rhagor o brofion diagnostig neu driniaeth
- Mae cymhlethdodau annisgwyl yn codi
- Mae angen rhagor o feddyginiaeth, gofal nyrsio neu arhosiad yn yr ysbyty ar yr anifail
- Mae angen newid y cynllun triniaeth
- Mae ymateb yr anifail i’r driniaeth yn wahanol i’r hyn a ragwelwyd
Byddwn yn gwneud ein gorau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gleientiaid am y costau sy’n codi a’r costau a ragwelir yn ystod y driniaeth. Os daw’n amlwg bod y gost ddisgwyliedig yn debygol o fod yn uwch na’r amcangyfrif neu unrhyw derfyn gwariant y cytunwyd arno gyda chi, byddwn yn ceisio cysylltu â chi cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol i drafod y sefyllfa a, lle bo’n briodol, i gael eich cydsyniad i’r gwariant ychwanegol. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, efallai y bydd angen rhoi triniaeth er budd yr anifail cyn y gellir cael y cydsyniad hwnnw.
Triniaeth Frys
Mewn argyfwng, lles eich anifail yw ein blaenoriaeth. Lle bo modd, byddwn yn trafod y costau tebygol a’r trefniadau talu gyda chi cyn dechrau’r driniaeth. Os oes angen triniaeth ar unwaith ac nad yw’n rhesymol ymarferol trafod amcangyfrif neu gytuno arno, na chael taliad ymlaen llaw, gallwn roi’r cymorth cyntaf, y dulliau lleddfu poen a’r triniaethau brys eraill sy’n rhesymol angenrheidiol o dan yr amgylchiadau. Codir tâl o hyd am driniaeth frys a roddir o dan yr amgylchiadau hyn, a chi sy’n parhau’n gyfrifol am dalu’r ffioedd sy’n deillio ohoni. Unwaith y bydd y sefyllfa frys uniongyrchol wedi’i sefydlogi, efallai y bydd yn ofynnol talu neu roi blaendal cyn inni barhau ag unrhyw driniaeth nad yw’n frys.
16. Taliadau a chyfrifon
Taliadau
Rhaid talu’n llawn am yr holl wasanaethau a thriniaethau pan ddarperir y gwasanaeth neu’r driniaeth neu pan ryddheir eich anifail anwes o’r practis, oni bai bod trefniadau eraill wedi’u gwneud ymlaen llaw, megis hawliad yswiriant uniongyrchol. Rydym yn derbyn taliadau ag arian parod, â cherdyn credyd neu ddebyd a thrwy drosglwyddiad banc. Efallai y bydd angen ein cymeradwyaeth ymlaen llaw i dalu â siec neu drwy ddull arall.
Nid ydym yn cynnig credyd na chynlluniau talu fel mater o drefn, gan y disgwylir taliad adeg rhoi’r driniaeth. Dim ond y Tîm Rheoli a all awdurdodi talu mewn rhandaliadau neu wneud taliadau rhannol, a rhaid cytuno ar y trefniadau hyn cyn y driniaeth.
Yn ôl ein disgresiwn, efallai y bydd yn ofynnol inni gael taliad neu flaendal ymlaen llaw cyn dechrau triniaeth, yn enwedig os disgwylir y bydd costau sylweddol, arhosiad yn yr ysbyty neu lawdriniaeth yn gysylltiedig â’r driniaeth.
Rydym yn derbyn talebau gan elusennau fel yr RSPCA a Cats Protection tuag at y taliad. Rhowch wybod inni ymlaen llaw os oes gennych dalebau o’r fath a’ch bod yn dymuno eu defnyddio.
Os Na Allwch Dalu
Os na allwch dalu ein ffioedd yn llawn am y driniaeth angenrheidiol, dylech drafod hyn â ni, lle bynnag y bo modd, cyn i’r driniaeth gael ei rhoi, gan y gall fod opsiynau eraill ar gael. Gallwn ystyried unrhyw gais am drefniadau talu eraill a chytuno arno yn ôl ein disgresiwn. Os na allwch setlo cyfrif presennol, siaradwch â Rebecca, ein Rheolwr Cyfrifon, cyn gynted â phosibl i drafod trefniadau. Drwy gysylltu’n gynnar, efallai y bydd modd inni drafod yr opsiynau sydd ar gael cyn i’r cyfrif fynd yn hwyr.
Os credwch fod gwall ar anfoneb neu os hoffech drafod unrhyw agwedd ar ein taliadau, cysylltwch â’r practis cyn gynted â phosibl. Byddwn yn ystyried anghydfodau gwirioneddol ynghylch biliau ac yn ymchwilio iddynt lle bo’n briodol. Fodd bynnag, nid yw gwneud cwyn neu godi ymholiad ynghylch anfoneb yn atal yn awtomatig eich rhwymedigaeth i dalu symiau nad ydynt yn destun anghydfod.
Ailosodir balans y cyfrif i’r ffi wreiddiol os bydd eich banc yn dychwelyd unrhyw siec heb ei thalu, os na chaiff unrhyw daliad â cherdyn credyd neu ddebyd ei anrhydeddu, neu os canfyddir bod unrhyw arian parod yn ffug. Ychwanegir taliadau pellach sy’n gysylltiedig â thaliadau banc a ffioedd gweinyddol.
Cyfrifon Heb eu Talu
Os na fydd cyfrif am driniaeth neu wasanaethau a ddarparwyd wedi’i dalu adeg y driniaeth, byddwn yn eich atgoffa drwy’r post, dros y ffôn neu drwy’r ddau ddull. Os bydd angen anfon ceisiadau pellach am daliad, efallai y codir costau gweinyddol ychwanegol.
Os na thelir mewn da bryd, gallwn gymryd y camau canlynol.
- anfon negeseuon atgoffa pellach a/neu fynnu taliad yn ffurfiol
- atgyfeirio’r cyfrif at asiantaeth casglu dyledion
- cychwyn achos sifil i adennill y ddyled a/neu gymryd unrhyw gamau cyfreithlon eraill sydd ar gael inni
- codi arnoch unrhyw gostau rhesymol am weinyddu, olrhain, casglu dyledion neu waith cyfreithiol yr eir iddynt wrth adennill dyled sydd heb ei thalu gennych.
Bydd methu â thalu cyfrifon neu wneud trefniadau addas gyda’r practis yn arwain at atgyfeirio’r cyfrif at asiantaeth casglu dyledion. Codir taliadau pellach oherwydd costau cymryd y cam hwn (gweler isod).
Os atgyfeirir cyfrif sydd heb ei dalu at asiantaeth casglu dyledion neu gynrychiolydd cyfreithiol, gallwn ddarparu i’r asiantaeth neu’r cynrychiolydd hwnnw’r wybodaeth sy’n rhesymol angenrheidiol i fynd ar drywydd y ddyled, yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol.
Taliadau Adennill Dyledion
Os na thelir unrhyw anfoneb yn llawn o fewn y cyfnod gofynnol, gellir codi taliadau gweinyddol ac adennill dyledion pellach ar eich cyfrif cyn ei atgyfeirio at ein hasiantaeth casglu dyledion i adennill y ddyled.
Pan atgyfeirir eich cyfrif at yr asiantaeth casglu dyledion, codir ffioedd ychwanegol arnoch. Byddwch yn atebol am ad-dalu inni’r holl gostau yr eir iddynt wrth inni geisio adennill y ddyled, gan gynnwys costau gohebiaeth, galwadau ffôn, adroddiadau, gwaith gweinyddol a chamau adennill dyledion eraill. O dan y contract, rhaid ichi dalu’r symiau ychwanegol hyn am adennill y ddyled, ynghyd â’r llog sy’n ddyledus am na wnaethoch dalu yn unol â’r telerau talu y cytunwyd arnynt.
Os bydd y cyfrif yn parhau mewn ôl-ddyledion 30 diwrnod ar ôl ei atgyfeirio at yr asiantaeth adennill dyledion, rydym yn cadw’r hawl i gychwyn achos cyfreithiol. Byddwch yn atebol am unrhyw gostau adennill dyledion ychwanegol ar ôl hynny, yn ogystal â chostau cyfreithiol. Byddwch yn atebol am ein costau cyfreithiol ar sail indemniad yn ogystal â’r prifswm a’r llog. Cofiwch y gall dyfarniadau’r llys sirol effeithio ar eich statws credyd.
Os na fodlonir y telerau talu a bod y cyfrif yn hwyr yn gyson neu wedi bod felly, rydym yn cadw’r hawl i atal gwasanaethau, i fynnu taliad ymlaen llaw am wasanaethau yn y dyfodol neu, ar ôl rhoi hysbysiad priodol, i roi’r gorau i ddarparu gwasanaethau a gofyn ichi wneud trefniadau eraill ar gyfer gofal milfeddygol eich anifail anwes. Ym mhob achos, byddwn yn gweithredu yn unol â’n rhwymedigaethau proffesiynol a chyfreithiol o ran lles anifeiliaid.
17. Teledu Cylch Cyfyng (CCTV), Ffotograffiaeth a Recordio
Mae camerâu CCTV ar waith y tu mewn i safle Seren Vets ac o’i amgylch er mwyn sicrhau diogelwch a gwarchodaeth ein cleientiaid a’n tîm. Defnyddir recordiadau CCTV at ddibenion cyfreithlon, gan gynnwys atal a chanfod troseddau, sicrhau diogelwch ein tîm a’n cleientiaid a diogelu ein safle a’n heiddo. Caiff lluniau CCTV eu trin a’u cadw yn unol â’n Polisi Preifatrwydd a’r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol.
Rydym yn deall y gall cleientiaid ddymuno tynnu lluniau neu ffilmio eu hanifeiliaid anwes wrth ymweld â Seren Vets. Gofynnwn ichi beidio â thynnu lluniau, ffilmio na gwneud recordiadau sain o aelodau staff, cleientiaid eraill na’u hanifeiliaid anwes heb eu caniatâd penodol. Yn yr un modd, ni chaniateir tynnu lluniau na gwneud recordiadau sy’n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol heb ganiatâd penodol.
Ni chaniateir gwneud recordiadau sain neu fideo personol o ymgyngoriadau neu sgyrsiau ag aelodau o dîm Seren Vets heb gael cydsyniad ymlaen llaw gan y person neu’r bobl a fydd yn cael eu recordio. Lle bo’n briodol, gallwn gytuno ar drefniadau addas i recordio gwybodaeth a allai eich helpu i gofio neu ddeall cyfarwyddiadau a roddir yn ystod ymgynghoriad.
Mae Seren Vets yn cadw’r hawl i ofyn ichi roi’r gorau i recordio, neu i ddileu neu gael gwared ar ffotograffau neu recordiadau, os ydym o’r farn eu bod yn amharu ar breifatrwydd neu ddiogelwch ein cleientiaid, ein cleifion neu ein tîm, neu’n mynd yn groes i’w disgwyliadau rhesymol.
18. Diogelwch yn y Practis
Mae diogelwch a lles ein cleifion, ein cleientiaid a’n tîm o’r pwys mwyaf inni. Gall practisau milfeddygol fod yn lleoedd prysur, a gall anifeiliaid fod yn ofnus, dan straen neu’n sâl. Gofynnwn felly i bob cleient ddilyn y canllawiau isod wrth ymweld â Seren Vets.
Cŵn
Rhaid cadw cŵn dan reolaeth ac ar dennyn bob amser tra byddant yn y practis, gan gynnwys yn y maes parcio a’r man aros. Efallai y bydd anifeiliaid anwes a chleifion sâl eraill yno a fyddai’n well ganddynt osgoi cyswllt digroeso. Gall hyd yn oed cŵn cyfeillgar ymateb mewn ffyrdd annisgwyl pan fyddant yn ofnus, yn bryderus neu’n sâl. Os yw’ch ci’n nerfus, yn tueddu i ymateb yn gryf neu’n anodd ei drin, rhowch wybod inni wrth drefnu eich apwyntiad. Efallai y gallwn drefnu man aros tawelach neu wneud trefniadau eraill i leihau straen. Lle bo’n briodol, gallwn argymell neu fynnu defnyddio penwar i sicrhau diogelwch eich ci, anifeiliaid eraill a’n tîm. Mae’n arfer da cadw eich penwar eich hun wrth law rhag ofn y bydd ei angen. Mae gennym hefyd benwarau y gellir eu defnyddio yn y practis am ddim. Rydym yn hapus i roi cyngor ar sut i gynefino’ch ci â phenwar a sut i’w ddefnyddio’n briodol, neu i drefnu ymweliadau cymdeithasoli i helpu anifeiliaid nerfus i fagu hyder.
Cathod ac Anifeiliaid Anwes Bach
Rhaid cludo pob cath a phob anifail anwes bach mewn cludwr diogel wrth ddod i’r practis. Dylent aros yn ddiogel yn eu cludwr tra byddant yn y man aros, nes cyrraedd yr ystafell ymgynghori. Peidiwch â gadael i gathod nac anifeiliaid anwes bach grwydro’n rhydd yn y practis.
Plant
Tra bydd plant yn y practis, maent yn parhau’n gyfrifoldeb yr oedolyn sy’n dod gyda nhw. Er diogelwch pawb, sicrhewch fod plant dan oruchwyliaeth bob amser ac nad ydynt yn mynd at anifeiliaid sy’n perthyn i gleientiaid eraill.
Trin Anifeiliaid
Efallai y bydd angen i’n tîm milfeddygol afael yn eich anifail anwes neu ei ddal yn ei le yn ystod archwiliad, triniaeth neu weithdrefn. Byddwn bob amser yn ceisio trin anifeiliaid yn bwyllog a chan ystyried eu lles. Os yw’ch anifail anwes yn arbennig o nerfus neu ofnus, neu’n debygol o ymateb pan fydd rhywun yn gafael ynddo, rhowch wybod inni cyn yr apwyntiad er mwyn inni gynllunio’r ymweliad yn briodol. Mewn rhai amgylchiadau, efallai yr argymhellir rhoi tawelydd neu gymryd camau ychwanegol os ystyrir bod hynny’n angenrheidiol er diogelwch a lles eich anifail anwes, ein tîm neu eraill.
Rydym yn cadw’r hawl i gymryd camau rhesymol i ddiogelu ein cleientiaid, ein cleifion a’n tîm. Gall hyn gynnwys gofyn i berchennog ddefnyddio penwar, symud anifail i fan tawelach, gohirio gweithdrefn nad yw’n frys neu wneud trefniadau eraill ar gyfer triniaeth.
19. Ymddygiad Parchus a Pholisi Dim Goddefgarwch
Yn Seren Vets, rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd croesawgar, diogel a phroffesiynol i’n cleientiaid, ein cleifion a’n tîm. Byddwn bob amser yn ceisio meithrin perthynas gadarnhaol a pharchus â’n cleientiaid, ac yn gofyn iddynt ddangos lefel debyg o barch at y tîm yn eu tro.
Rydym yn cydnabod y gall ymweliadau â’r practis milfeddygol beri straen weithiau, yn enwedig pan fydd anifail anwes yn sâl neu pan fo pryderon am ei iechyd. Rydym yn deall y gall cleientiaid deimlo’n ofidus neu’n rhwystredig weithiau. Rydym bob amser yn barod i wrando ar bryderon a byddwn yn gwneud ein gorau i fynd i’r afael â hwy yn briodol. Ni allwn dderbyn ymddygiad sy’n gamdriniol, yn fygythiol, yn frawychus neu’n amharchus tuag at ein tîm neu gleientiaid eraill.
Mae Seren Vets yn gweithredu polisi dim goddefgarwch mewn perthynas â’r ymddygiad canlynol.
- Cam-drin geiriol neu gorfforol
- Ymddygiad bygythiol, ymosodol neu frawychus
- Rhegi neu gyfeirio iaith sarhaus at aelodau o’n tîm
- Bwlio neu wahaniaethu
- Aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol o unrhyw fath. Gall hyn gynnwys sylwadau neu ystumiau digroeso, neu unrhyw ymddygiad corfforol, geiriol neu ddi-eiriau digroeso sydd o natur rywiol neu’n awgrymu hynny
- Gofynion neu gyfathrebu afresymol neu barhaus
- Ymddygiad sy’n tarfu’n fwriadol yn y practis
- Bygythiadau o drais neu weithredoedd treisgar yn erbyn ein tîm, ein cleientiaid neu anifeiliaid
- Cyfathrebiadau neu sylwadau camdriniol, bygythiol neu ddifenwol ar-lein neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol
- Unrhyw fath arall o ymddygiad neu gyfathrebu y gellid ei ystyried yn amhriodol, yn anghwrtais neu’n amharchus tuag at ein staff
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i ymddygiad wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy e-bost, ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy unrhyw ddull cyfathrebu arall. Mae’n berthnasol i unrhyw unigolyn ac i unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r unigolyn hwnnw. Mae’n berthnasol hefyd i ddarparwyr gwasanaethau trydydd parti, cyflenwyr a chontractwyr, yn ogystal â chleientiaid.
Os bydd unigolyn yn ymddwyn yn amhriodol, gallwn ofyn i’r unigolyn roi’r gorau i’r ymddygiad hwnnw neu adael y practis. Mewn amgylchiadau difrifol, gallwn ddod â galwad ffôn neu gyfathrebiad arall i ben a chynnwys yr awdurdodau priodol os oes angen. Os yw ymddygiad cleient yn peri risg barhaus i ddiogelwch neu les ein tîm neu gleientiaid eraill, mae Seren Vets yn cadw’r hawl i gyfyngu ar gofrestriad y cleient gyda’r practis neu i ddod â’r cofrestriad i ben. Pan ddaw cofrestriad i ben fel hyn, byddwn yn darparu gwybodaeth briodol a, lle bo modd, yn rhoi rhybudd rhesymol er mwyn i’r cleient allu gwneud trefniadau eraill ar gyfer gofal milfeddygol parhaus ei anifail anwes. Ym mhob achos, byddwn yn gweithredu yn unol â’n rhwymedigaethau proffesiynol a chyfreithiol o ran lles anifeiliaid a thriniaeth frys.
Ni fyddwn yn goddef cam-drin ein tîm. Byddwn bob amser yn ceisio ymdrin â phryderon yn deg ac yn broffesiynol. Os oes gennych gŵyn neu bryder ynghylch y gofal neu’r gwasanaeth a gawsoch, defnyddiwch ein Gweithdrefn Gwyno (gweler isod) er mwyn inni gael cyfle i ymchwilio ac ymateb yn briodol.
20. Adborth a Chwynion
Rydym yn gobeithio y byddwch bob amser yn fodlon ar y gofal a’r gwasanaeth a ddarperir gan Seren Vets. Mae ein tîm bob amser yn gwerthfawrogi cael adborth cadarnhaol. Os oes gennych bryder, neu os ydych o’r farn nad ydym wedi bodloni’ch disgwyliadau, hoffem gael cyfle i ymchwilio ac unioni pethau lle bynnag y bo modd. Rydym yn deall y gall gofal milfeddygol beri straen ac y gall pryderon godi weithiau pan fydd eich anifail anwes yn sâl. Ni fydd gwneud cwyn yn effeithio ar y gofal a roddwn i’ch anifail anwes. Rydym yn cymryd cwynion o ddifrif ac yn defnyddio adborth i nodi lle gallwn wella ein gwasanaethau, ein ffordd o gyfathrebu a’n safonau gofal. Rydym yn croesawu pob math o adborth, boed yn ganmoliaeth, yn sylw neu’n gŵyn.
Gweithdrefn Gwyno
Os oes gennych bryder ynghylch triniaeth eich anifail anwes neu’r gwasanaeth a gawsoch, rydym yn eich annog i’w godi gydag aelod o’r tîm cyn gynted â phosibl. Mewn llawer o achosion, gellir datrys pryderon yn gyflym drwy eu trafod yn y lle cyntaf yn uniongyrchol â’r milfeddyg neu’r aelod o’r tîm sy’n ymwneud â gofal eich anifail anwes. Gallwch hefyd ofyn am gael siarad ag un o’n rheolwyr, Deborah neu Rebecca.
Os na ellir datrys eich pryder yn anffurfiol neu os dymunwch wneud cwyn ffurfiol, cyflwynwch eich cwyn yn ysgrifenedig drwy e-bost at clientcare@serenvets.co.uk neu drwy lythyr at y rheolwyr yn Seren Vets, Parc Pensarn, Carmarthen, SA31 2NF. Nodwch eich enw, enw eich anifail anwes, amgylchiadau’r gŵyn a’r canlyniad rydych yn ei geisio.
Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn ceisio rhoi ymateb llawn o fewn 20 diwrnod gwaith. Os yw’r ymchwiliad yn debygol o gymryd mwy o amser, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi. Byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn mor deg a thrylwyr â phosibl. Gall hyn gynnwys adolygu cofnodion clinigol eich anifail anwes, siarad ag aelodau o’r tîm sy’n ymwneud â’i ofal ac ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol a rowch inni cyn ymateb.
Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb, gallwch gyfeirio’ch cwyn at y Gwasanaeth Cyfryngu i Gleientiaid Milfeddygon (Veterinary Client Mediation Service, VCMS), sy’n wasanaeth cyfryngu annibynnol am ddim. www.vetmediation.co.uk
Os na fydd cyfryngu’n datrys eich pryderon, mae gennych hawl i gyflwyno cwyn i Goleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS). www.rcvs.org.uk
Gofynnwn ichi gyflwyno cwynion mewn modd parchus. Mae ein polisi Ymddygiad Parchus a Dim Goddefgarwch yn berthnasol i bob cyfathrebiad â’r practis, gan gynnwys y broses gwyno.