Yma yn Seren Vets, mae ein tîm profiadol yn cynnwys milfeddygon a nyrsys sydd â diddordeb arbennig a chymwysterau ychwanegol mewn trin anifeiliaid egsotig, rhywogaethau sŵolegol a bywyd gwyllt, gan ganiatáu i ni gynnig gofal eithriadol i’r rhywogaethau hyn. Mae ein cyfleusterau arbenigol wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer anghenion penodol yr anifeiliaid anwes hyn hefyd.
Rydym yn trin amrywiaeth eang o rywogaethau, gan gynnwys:
Mamaliaid megis cwningod, moch cwta, chinchillas, bochdewion, llygod mawr, llygod, a draenogod.
Ymlusgiaid, megis nadroedd, madfallod (geckos, dreigiau barfog, chameleon), crocodeiliaid, crwbanod a terrapins.
Adar, megis parotiaid, caneris, ieir a hwyaid.
Pysgod, megis pysgod aur, pysgod acwariwm morol a dŵr croyw, koi a rhywogaethau pwll dwr.
Amffibiaid, megis brogaod a llyffantod.
Infertebratau, megis pryfed a malwod.
Nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysfawr a byddai ein tîm milfeddygol egsotig yn hapus i drafod unrhyw ofynion ar gyfer rhywogaethau anarferol.