Wrth astudio am radd mewn Gwyddor Anifeiliaid, magodd Gemma ddiddordeb brwd ym maeth anifeiliaid anwes. Arweiniodd hynny at leoliad profiad gwaith yn Burns Pet Nutrition, a drodd yn swydd a barhaodd dros ddeng mlynedd. Roedd Gemma bob amser wedi gobeithio gweithio ym maes milfeddygaeth, felly penderfynodd ei bod hi’n bryd gwireddu’r gobaith hwnnw. Yn ei hamser hamdden, mae Gemma’n mwynhau mynd am y diwrnod gyda’i theulu (gan amlaf i ymweld â chastell Cymreig), neu aros gartref gyda chath wedi cyrlio ar ei glin.