Ymunodd Debs â’n tîm derbynfa gyda blynyddoedd lawer o brofiad yn gweithio mewn practisau milfeddygol ac, yn fwy diweddar, mewn practis meddygon teulu. Mae wrth ei bodd yn gweithio ym maes milfeddygaeth eto. Mae ganddi ddau gi cockerpoo, Fin a Flo, sy’n ei chadw’n brysur y tu allan i’r gwaith. Yn ei hamser hamdden, mae’n mwynhau mynd â’r cŵn am dro, mynd i’r gampfa, cymdeithasu â ffrindiau a threulio amser gyda’i theulu.