Mae Becky wedi bod yn hoff o anifeiliaid ers ei phlentyndod a dod yn nyrs filfeddygol oedd ei swydd ddelfrydol erioed. Ers cymhwyso fel Nyrs Filfeddygol Gofrestredig yn 2012, mae Becky wedi mwynhau pob agwedd ar nyrsio, gyda diddordeb arbennig mewn gwaith llawfeddygol/theatr a chynnal clinigau nyrsys.
Y tu allan i'r gwaith mae ei merch ifanc yn ei chadw'n brysur, ac mae'n mwynhau teithiau cerdded hir gyda'i thri dachshund a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu.