Ffion yw aelod ieuengaf ein tîm, mae hi newydd adael yr ysgol. Mae wedi bod yn freuddwyd ganddi erioed i ddod yn Nyrs Filfeddygol ac mae'n gobeithio gweithio tuag at hyn. Daw Ffion o deulu ffermio ac mae’n byw ar fferm laeth a chig eidion. Mae hi bob amser wedi mwynhau helpu ei thad allan ar y fferm a chafodd ei hysbrydoli ganddo i ddewis ei gyrfa.
Mae gan Ffion Jack Russell, Cara, a dau gi arall gartref, Bryn a Wilf, sy'n bartneriaid ym myd trosedd. Mae Ffion yn mwynhau cerdded yng nghefn gwlad a threulio amser gyda'i theulu a'i ffrindiau.